From Wikipedia, the free encyclopedia
Honiad neu gyfres o honiadau a wneir yn gyhoeddus er mwyn pardduo (neu geisio pardduo) enw da sefydliad, unigolyn neu gredo ydy sgandal. Gall sgandal fod yn seiliedig ar wirionedd neu gyhuddiadau ffug neu gyfuniad o'r ddau.
Daw'r gair o'r iaith Roegaidd σκάνδαλον (skandalon), sy'n golygu magl neu faen tramgwydd,[1] sy'n drosiad yn golygu fod ymddygiad sy'n anghywir mewn rhy fodd yn gallu atal neu "faglu" ffydd neu ymddiriedaeth pobl.[2]
Datgelir rhai sgandalau gan gyhuddwr neu gyhuddwraig sy'n datgelu ymddygiad annerbynniol o fewn sefydliad neu fudiad, megis Deep Throat (William Mark Felt) yn ystod Sgandal Watergate yn y 1970au. Weithiau ceisir cuddio sgandal posib ond achosa hyn fwy o sgandal pan fo'r ymdrech i guddio yn cael ei ddatgelu.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.