Sian Northey
llenor / From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur Cymreig yw Sian Northey, yn wreiddiol o Drawsfynydd, mae eisoes yn byw ym Menrhyndeudraeth.[1]
Sian Northey | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Astudiodd am radd mewn Swoleg. Ar ôl nifer o swyddi, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio fel awdur, bardd a golygydd ar ei liwt ei hun. Mae'n sgwennwr llawrydd gan ysgrifennu ffuglen, ar gyfer plant ac oedolion, a barddoniaeth. Mae hefyd yn gyfieithydd ac yn cynnal gweithdai ysgrifennu o bob math gyda diddordeb arbennig yn y cyswllt rhwng llenyddiaeth ac iechyd a llesiant. Yn ddiweddar mae wedi ennill doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Tywysogion ac wedi ennill Coron Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a chadeiriau Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.[2]