![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/dc/Carl_Albrecht_VII%252C_by_workshop_of_George_Desmarees.jpg/640px-Carl_Albrecht_VII%252C_by_workshop_of_George_Desmarees.jpg&w=640&q=50)
Siarl VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ymerawdwr Glân Rhufeinig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Uchelwr o Dŷ Wittelsbach oedd Siarl VIII (Karl Albrecht; 6 Awst 1697 – 20 Ionawr 1745) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1742 i 1745 ac yn Etholydd Bafaria o 1726 i 1745.
Siarl VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 Awst 1697 ![]() Dinas Brwsel ![]() |
Bu farw | 20 Ionawr 1745 ![]() München ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig ![]() |
Priod | Maria Amalia ![]() |
Llinach | Tŷ Wittelsbach ![]() |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur ![]() |
llofnod |
Ganed ym Mrwsel yn yr Iseldiroedd Sbaenaidd, yn fab i Maximilian II, Etholydd Bafaria, a'i wraig Theresa Kunegunda Sobieska, a oedd yn ferch i Jan III Sobieski, brenin Gwlad Pwyl. Olynodd Siarl ei dad yn Etholydd Bafaria ym 1726. Er iddo gydnabod y Datganiad Pragmatig a oedd yn sicrhau hawl Maria Theresa, merch yr Ymerawdwr Siarl VI, i olynu ei thad, roedd yr Etholydd Siarl yn credu ei fod yn meddu ar hawl ei hun gan fod ei wraig yn ferch i'r Ymerawdwr Joseff I.[1]
Yn sgil marwolaeth Siarl VI ym 1740, ymunodd Siarl â'r cynghrair yn erbyn Maria Theresa yn ystod Rhyfel Olyniaeth Awstria (1740–48). Cydnabuwyd ei hawl gan Ffrainc a Phrwsia, a fe'i coronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn Chwefror 1742. Dim ond tair blynedd oedd cyfnod ei deyrnasiad. Bu farw Siarl ym Mhalas Nymphenburg ym München yn 47 oed, a gwrthododd ei fab, Maximilian III Joseph, hawlio coron Awstria. Fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan Ffransis I, gŵr Maria Theresa.[1]