Cynhyrchydd comedi, gweithredwr darlledu ac awdur o Gymraes yw Sioned Wiliam (ganwyd 14 Mehefin 1961). Mae hi wedi bod yn gynhyrchydd rhaglenni comedi, yn bennaeth rhaglenni comedi i ITV, a chomisiynydd comedi ar gyfer BBC Radio 4. Ers Mawrth 2024 hi yw prif weithredwr dros dro S4C.[1]
Sioned Wiliam | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mehefin 1961 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, gweithredwr darlledu, ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd radio |
Tad | Urien Wiliam |
Bywyd cynnar ac addysg
Fe'i ganwyd yng Nghaerfyrddin, yn ferch i'r awdur Urien Wiliam. Fe'i magwyd yn Y Barri ac aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen, cyn astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.[2] Yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Rhydychen, cychwynodd berfformio yn yr Oxford Revue, yn gweithio gyda Rebecca Front a Armando Iannucci, ymysg eraill.[3] Gyda Front, roedd yn rhan o'r ddeuawd comedi a cherddoriaeth, y Bobo Girls; perfformiodd y ddau yng Ngŵyl Frinj Caeredin yn 1989[4] ac mewn cyfres radio, Girls Will Be Girls, a redodd am ddwy gyfres yn 1989 ac 1991.[5]
Gyrfa
Aeth ymlaen i weithio fel cynhyrchydd rhaglenni comedi i’r prif rwydweithiau teledu. Fe’i henwebwyd am wobr BAFTA Lloegr dair gwaith fel cynhyrchydd ac enillodd y British Comedy Award a’r Rhosyn Efydd ym Montreux am Big Train ym 1999.[6]
Rhwng 1999 a 2006 roedd yn Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill’s Sketch Show a Cold Feet.[7]
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Dal i Fynd yn 2013. Dilynodd Chwynnu yn 2015.[8] Ailymwelir â chymeriadau Dal i Fynd yn ei thrydedd nofel, Cicio'r Bar, ond mae'r gyfrol yn sefyll ar ei phen ei hun.[9] Cyhoeddwyd y nofelau i gyd gan Y Lolfa[10].
Fe'i penodwyd yn Bennaeth Comedi Radio 4 yn 2015 a gadawodd y swydd yn 2022.[11]
Bywyd personol
Mae'n briod â Ian Brown, sgriptiwr comedi ac mae ganddynt fab.[3]
Mae ei brawd, Steffan Wiliam, yn byw ac yn gynghorydd Plaid Cymru yn y Barri.[12]
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.