Sosialaeth yw'r enw a roddir i gasgliad o ideolegau sy'n ffafrio cyfundrefn sosio-economaidd lle mae eiddo a dosbarthiad cyfoeth yn cael eu rheoli gan gymdeithas.[1]
Gellir olrhain gwreiddyn y mudiad sosialaeth modern yn bennaf at fudiad dosbarth gweithiol y 19g. Yn y cyfnod hwn, defnyddiwyd y term "sosialaeth" yn gyntaf pan yn cyfeirio at feirniaid cymdeithasol Ewropeaidd oedd yn collfarnu cyfalafiaeth ac eiddo preifat. Un fu'n rhannol gyfrifol am sefydlu a diffinio'r mudiad sosialaeth modern oedd Karl Marx. Credai ef y dylid diddymu arian, marchnadoedd, cyfalaf, a llafur fel cynwydd.
Yn nhreigl amser, rhannodd y mudiad yn garfannau gwahanol. Erbyn heddiw ceir pleidiau sosialaidd cymdeithasol - diwygwyr megis y Blaid Lafur sydd yn cefnogi gwladwriaethau les a rheoli cyfalafiaeth; comiwnyddion chwyldroadol megis y Bolsiefigiaid sydd yn cefnogi "Unbennaeth y Proletariat"; ac anarchwyr gwrth-wladwriaethol. Yn aml cymysgir egwyddorion sosialaidd â syniadau gwleidyddol gwahanol, megis cenedlaetholdeb fel wna Plaid Cymru.
Geirdarddiad
Y Cymro a sosialydd cynnar Robert Owen defnyddiodd, am y tro gyntaf yn Saesneg, y termau socialist (yn 1827) a socialism (yn 1837). Roedd hyn yn seiliedig ar y derm Ffrengig socialisme, hawliau'r diwygiwr Pierre Leroux a'r cyhoeddwr Saint-Simonian 'ill dau y clod am fathu'r derm honno. Cymdeithasiaeth oedd y derm ffafriodd R. J. Derfel, ond "sosialaeth" daeth yn fwy boblogaidd.[2][3]
Ffynonellau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.