System-gefnogi Bedair Coes
From Wikipedia, the free encyclopedia
Robot pedair coes ydyw LS3 neu System-gefnogi Bedair Coes; Saesneg: Legged Squad Support System; hefyd AlphaDog) a ddefnyddir er mwyn cludo arfau, bwyd, pwer trydan ayb i sgwadiau o filwyr ar flaen y gad. Mae'n chwarae rhan y march pwn cyn dyfodiad peiriannau. Mae'n ddatblygiad o brosiect gynharach o'r enw BigDog, ac fel ei ragflaenydd gall weithio o dan amgylchiadau anodd a chaled, gan gynnwys oerni a gwres eithafol, tir gwlyb a budur.[1][2]
Gall gario dros 400 pwys (180 kg) o offer a syhwyro'r tirwedd o'i gwmpas er mwyn fforio'n dawel o amgylch rhwystrau. O ran maint, mae'r LS3 yn debyg iawn i'r ceffyl. Mae ganddo ddau gamera, synhwyrydd golau, ac offer pellter (LIDAR) a gall ddilyn milwyr troed gan gofnodi popeth ar ei ffordd.