From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith yn ne Sbaen, yng nghymuned ymreolaethol Andalucía yw Talaith Málaga. Mae'n ffinio â Môr y Canoldir i'r de a thaleithiau Cádiz i'r gorllewin, Sevilla i'r gogledd-orllewin, Córdoba i'r gogledd, a Granada i'r dwyrain. Málaga yw ei phrifddinas.
Math | talaith o fewn Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Málaga |
Poblogaeth | 1,695,651 |
Pennaeth llywodraeth | Elías Bendodo Benasayag |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 7,308 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Talaith Córdoba, Talaith Granada, Talaith Cádiz, Talaith Sevilla |
Cyfesurynnau | 36.72°N 4.42°W |
Cod post | 29 |
ES-MA | |
Corff gweithredol | Provincial Deputation of Málaga |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Q42409076 |
Pennaeth y Llywodraeth | Elías Bendodo Benasayag |
Mae ganddi arwynebedd o 7,308 km². Mae'n cynnwys 102 o fwrdeistrefi.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y dalaith boblogaeth o 1,696,955.[1]
Heblaw am y brifddinas, ei phrif ddinasoedd yw Marbella, Mijas, Fuengirola, Véliz-Málaga, Torremolinos, Estepona, a Benalmádena, sydd i gyd wedi'u lleoli ar yr arfordir. Mae trefi Antequera a Ronda wedi'u lleoli yn y mewndir.
Ei phrif ddiwydiant yw ei gyrchfannau twristiaeth, yn enwedig y rhai ar y traethau ar hyd y Costa del Sol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.