Tenis brenhinol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y gêm raced gwreiddiol sy'n ôl-ddyddio tenis cyfoes yw tenis brenhinol, neu tenis real. Adnabyddir fel jeu de paume yn Ffrainc, "tenis llys" yn yr Unol Daleithiau.[1]
Defnyddiwyd y term "real" am y tro cyntaf yn yr 20g, er mwyn gwahaniaethu rhwng y gêm hynafol a'r gêm tenis "lawnt" gyfoes (er na chwaraeir tenis lawnt ar lawntiau yn aml heddiw).
Mae tenis brenhinol yn parhau i gael ei chwarae gan rai brwdfrydig ar 47 cwrt yn y Deyrnas Unedig, Awstralia, yr Unol Daleithiau, a Ffrainc. Er bod cofnod hanesyddol o gyrtiau'n bodoli yn y Taleithiau Almaenig o'r 17g, mae'n ymddangos i'r chwaraeon ddod i ben yno yn ystod neu ar ôl ailadeiladu'r wlad yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cefnogir a llywodraethir y chwaraeon gan amryw o gymdeithasau ledled y byd.