From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae The Catcher in the Rye (1951) yn nofel gan J. D. Salinger. Yn wreiddiol, cafodd ei chyhoeddi ar gyfer oedolion [1] ond bellach mae'n rhan gyffredin o feysydd llafur ysgolion uwchradd a cholegau. Mae'r nofel wedi ei chyfieithu i'r mwyafrif o brif ieithoedd y byd [2]. Gwerthir oddeutu 250,000 o gopïau yn flynyddol, gyda'r cyfanswm o'r nifer o gopïau sydd wedi'u gwerthu hyd yn hyn dros chwechdeg pum miliwn. Mae gwrth-arwr y nofel, Holden Caulfield, wedi datblygu i fod yn eicon ar gyfer arddegwyr gwrthryfelgar.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | J. D. Salinger |
Cyhoeddwr | Little, Brown and Company |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 16 Gorffennaf 1951 |
Genre | Bildungsroman |
Cymeriadau | Holden Caulfield, Phoebe Caulfield |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Lleoliad y gwaith | Dinas Efrog Newydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dewisodd cylchgrawn Time y nofel fel un o'r nofelau Saesneg gorau a ysgrifennwyd rhwng 1923 a 2005 [3] a chan y Llyfrgell Fodern a'i darllenwyr fel un o'r cant o nofelau gorau o'r 20g. Mae nifer yn yr Unol Daleithiau wedi ceisio herio a chwestiynu cynnwys y nofel yn sgîl ei hiaith gref a'r modd y mae'n darlunio rhywioldeb a phryderon dwys pobl ifanc yn eu glasoed.
Roedd llofruddiaeth John Lennon gan Mark David Chapman ac ymgais John Hinckley, Jr. i ddienyddio Ronald Reagan, ynghyd â llofruddiaethau eraill wedi cael eu cysylltu â'r nofel [4][5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.