cwmni theatr Cymraeg cenedlaethol Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Cwmni Theatr Genedlaethol Cymraeg ei hiaith ydy Theatr Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd y cwmni yn 2003 ac fe'i lleolir erbyn hyn, yn Yr Egin, Caerfyrddin. Mae bwriad a gweledigaeth y cwmni wedi amrywio'n fawr dros y blynyddoedd, yn unol â gweledigaeth yr arweinydd artistig gyfredol.
Enghraifft o'r canlynol | cwmni theatr, busnes, sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2003 |
Gweithwyr | 15 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Caerfyrddin |
Gwefan | http://www.theatr.cymru/ |
Yn y gorffennol, mae'r cwmni wedi teithio ystod eang o theatr ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys ysgrifennu newydd, sioeau cerdd, gwaith safle-benodol, a Chlasuron y Theatr Gymraeg a Rhynglwadol.
Cafodd y cwmni eu henwebu fel Cynhyrchydd y Flwyddyn yn The Stage Awards 2024.[1]
Mae'r cwmni yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn flynyddol, fel arfer gyda dramâu newydd. Mae gwaith diweddar y cwmni wedi cael enwebiad UK Theatre Awards.[2]
O dan arweiniad a phenodiad dadleuol Cefin Roberts yn 2003, fe gychwynodd y Cwmni drwy sefydlu cwmni craidd o bedwar actor, ar ffurf cwmni Rep. Yr aelodau gwreiddiol oedd Owen Arwyn, Dave Taylor, Carys Eleri a . Cynhyrchiad cynta'r cwmni oedd ail-lwyfannu drama Meic Povey, Yn Debyg Iawn I Ti A Fi.
Ers 2003, mae'r cwmni wedi perfformio cynhyrchiadau yn cynnwys Yn Debyg Iawn i Ti a Fi, Siwan, Cysgod y Cryman, Esther, Hen Rebel, Porth y Byddar, Iesu!, Y Pair, Y Gofalwr a Gwlad yr Addewid.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.