gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900) From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgolhaig, awdur a gweinidog Cymreig oedd Thomas Charles-Edwards (22 Medi 1837 – 22 Mawrth 1900). Ef oedd Prifathro cyntaf Prifysgol Aberystwyth.[1]
Thomas Charles Edwards | |
---|---|
Thomas Charles Edwards, tua 1885 (Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ganwyd | 22 Medi 1837 Llanycil |
Bu farw | 22 Mawrth 1900 |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, pregethwr |
Tad | Lewis Edwards |
Mam | Jane Edwards |
Perthnasau | Thomas Charles-Edwards |
Roedd Thomas Charles Edwards yn fab i Lewis Edwards, sefydlydd Coleg y Bala. Addysgwyd ef yn Ngholeg Lincoln, Rhydychen, a dechreuodd bregethu gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1856. Daeth yn weinidog capel Windsor Street yn Lerpwl, ac yn ddiweddarach yn weinidog capel Catherine Street yn yr un ddinas. Ystyrid ef yn un o brif bregethwyr ei genhedlaeth.[1]
Yn 1872, sefydlwyd y brifysgol newydd yn Aberystwyth, ac apwyntiwyd Edwards fel y Prifathro cyntaf. Ymddiswyddodd yn 1891, yn rhannol am resymau iechyd ac yn rhannol i ddilyn ei dad fel pennaeth Coleg y Bala, a oedd bryd hynny lawn cyn bwysiced â'r coleg newydd yn Aberystwyth.[1]
Mae'r hanesydd Thomas Charles-Edwards yn ŵyr iddo.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.