Sant Cymreig oedd Tyfrydog (bl. 6C). Ef a sefydlodd eglwys Llandyfrydog ar ynys Môn, yn ôl traddodiad. Dethlir gŵyl Tyfrydog ar Ddydd Calan (1 Ionawr).
Tyfrydog | |
---|---|
Ganwyd | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cysylltir gyda | Llandyfrydog |
Dydd gŵyl | 1 Ionawr |
Hanes a thraddodiad
Ychydig iawn o wybodaeth sydd amdano. Yn ôl achau'r saint, roedd yn un o feibion Arwystli Gloff gan Dynwynedd ferch Amlawdd Wledig, ac felly o dras frenhinol.[1]
Ceir hanesyn gan Gerallt Gymro am 'ddial' y sant ar Huw Flaidd, Iarll Caer, yn 1098. Yn ôl Gerallt,
- Ar yr ynys hon, hefyd, y mae eglwys Sant Tyfrydog, cyffeswr. Pan letyodd Huw, Iarll Caer... ei gŵn dros nos ynddi, cafodd hwynt drannoeth y bore i gyd yn wallgof; a cyn pen mis syrthiodd ef ei hun yn farw mewn modd truenus.[2]
Lladdwyd Huw Flaidd fis ar ôl hynny gan Magnus III, brenin Norwy, mewn brwydr ar Afon Menai.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.