Vasily Smyslov
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Vasily Vasilyevich Smyslov (Rwseg: Vasíliy Vasíl'yevich Smyslóv; 24 Mawrth 1921 – 27 Mawrth 2010)[1] yn uwchfeistr gwyddbwyll Sofietaidd a Rwsiaidd. Bu'n Bencampwr Gwyddbwyll y Byd o 1957 i 1958. Bu'n Ymgeisydd ar gyfer Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd ar wyth achlysur (1948, 1950, 1953, 1956, 1959, 1965, 1983, a 1985). Bu Smyslov yn gyfartal gyntaf ddwywaith ym Mhencampwriaethau Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd (1949, 1955), ac mae y cyfanswm o 17 o fedalau Olympiad Gwyddbwyll a enillodd yn record. Mewn pum Pencampwriaeth Tîm Ewropeaidd, enillodd Smyslov ddeg medal aur.
Vasily Smyslov | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1921 Moscfa |
Bu farw | 27 Mawrth 2010 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Galwedigaeth | chwaraewr gwyddbwyll, canwr, awdur ffeithiol, arbenigwr gwyddbwyll, ysgrifennwr, newyddiadurwr |
Math o lais | bariton |
Gwobr/au | pencampwr gwyddbwyll y byd, Urdd Lenin, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Arhosodd Smyslov yn weithgar ac yn llwyddiannus mewn gwyddbwyll cystadleuol tan ei chwedegau. Er fod ei olwg yn dirywio, arhosodd yn weithgar gyda chyfansoddiadau achlysurol o broblemau ac astudiaethau gwyddbwyll tan ychydig cyn ei farwolaeth yn 2010. Ar wahân i gwyddbwyll, roedd yn ganwr bariton medrus.