Via Campesina
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydliad cefnogi ffermwyr, rhyngwladol a sefydlwyd yn 1993 ym Mons, Gwlad Belg, yw La Vía Campesina (o Sbaeneg: la vía campesina, llythrennol: Yn Null y Werin). Ffurfiwyd y mudiad o 182 o sefydliadau mewn 81 o wledydd, ac mae'n disgrifio'i hun fel "mudiad rhyngwladol sy'n cydlynu sefydliadau gwerinol o gynhyrchwyr bach a chanolig, gweithwyr amaethyddol, menywod gwledig, a chymunedau brodorol o Asia, Affrica, America ac Ewrop".[1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1993 |
Pencadlys | Bagnolet |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | https://viacampesina.org, https://viacampesina.org/fr, https://viacampesina.org/es/ |
Mae Via Campesina yn eiriol dros amaethyddiaeth gynaliadwy deuluol ar y fferm, a dyma'r grŵp a fathodd y term "sofraniaeth bwyd".[1] Mae La Vía Campesina yn cynnal ymgyrchoedd i amddiffyn hawl y ffermwr i hadau, ymgyrchoedd atal trais yn erbyn menywod, ymgyrchoedd dros ddiwygio amaethyddol, ac yn gyffredinol ar gyfer cydnabod hawliau gwerinwyr.[2]