![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/73/Wesley_Snipes_%252841969097750%2529_%2528cropped%2529.jpg/640px-Wesley_Snipes_%252841969097750%2529_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
Wesley Snipes
actor a aned yn Orlando yn 1962 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Wesley Trent Snipes (ganed 31 Gorffennaf 1962) yn actor, cynhyrchydd ac yn grefftiwr ymladd Americanaidd. Mae ef wedi serennu mewn ffilmiau antur a chyffro, ond mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Blade yn y tair ffilm Blade. Ym 1991, sefydlodd gwmni cynhyrchu o'r enw Amen Ra Films ac is-gwmni, Black Dot Media, er mwyn datblygu prosiectau ffilm a theledu. Mae Snipes wedi bod yn hyfforddi mewn crefft ymladd ers pan oedd yn ddeuddeg mlwydd oed, gan gyrraedd safle pumed dan gwregys ddu yn karate Shotokan.
Wesley Snipes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Wesley Trent Snipes ![]() 31 Gorffennaf 1962 ![]() Orlando, Florida ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor, karateka, athletwr taekwondo, cynhyrchydd ffilm, canwr, actor llwyfan ![]() |
Priod | Nakyung Park ![]() |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Volpi Cup for Best Actor ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America ![]() |
Yn 2008, cafwyd Snipes yn euog o dair trosedd o beidio dychwelyd anfonebau treth incwm ac ar y 24ain o Ebrill, fe'i ddedfrydwyd i dair blynedd o garchar.[1] Ar yr 22ain o Fai, penderfynodd y llys y gallai Snipes barhau i fod yn rhydd tra bod ei apel yn cael ei ystyried.[2].