Wica
From Wikipedia, the free encyclopedia
Crefydd Paganiaeth fodern ydy Wica, a elwir hefyd yn Wrachyddiaeth Baganaidd. Datblygwyd hi yn Lloegr yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a chyflwynwyd hi i'r cyhoedd ym 1954, wedi i Gerald Gardner, gwas sifil Prydeinig a sylfaenydd y grefydd, siarad yn gyhoeddus amdani. Mae nifer o gredoau Wica yn tarddu ym Mhaganiaeth ac hermetigiaeth yr ugeinfed ganrif parthed ei strwythur diwinyddol ac arferion defodol.
- Mae'r erthygl hon yn sôn am y grefydd ddeuolaidd. Am defnyddiau eraill, gweler Wica (gwahaniaethu).
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Nid oes gan Wica awdurdodaeth ganolog. Datblygwyd ei hymarferion, egwyddorion, a'i chredoau traddodiadol gyntaf yn y 40au a'r 50au gan Gardner ac Archoffeiriades gynnar iddo o'r enw Doreen Valiente. Rhannwyd yr ymarferion cynnar hyn drwy gyhoeddi llyfrau a dysgeidiaethau llafar ac ysgrifenedig cyfrinachol, a rannwyd, yn ei dro, gyda dilynwyr newydd Wica. Mae sawl amrywiad ar brif strwythur y grefydd wrth iddi dyfu ac esblygu ers ei dyddiau cynnar. Iddi mae nifer o linachau ac enwadau a elwir yn draddodiadau, ac mae gan bob un o'r rheiny strwythur ei hun. Oherwydd nad oes ganddi awdurdodaeth ganolog, weithiau ceir anghytuno ar gynifer o faterion pwysig, megis beth yn union ydy Wica. Mae rhai traddodiadau, fel Wica Draddodiadol Prydain, yn cadw'n dynn at linach Gardner ac yn ystyried y dylid defnyddio'r term Wica gyda thraddodiadau tebyg eraill yn unig, ond nid i draddodiadau eclectig, newydd.
Fel arfer, mae Wica yn cynnwys addoli Duwies a Duw, sef Duwies y Lleuad a'r Duw Corniog yn draddodiadol, hefyd a elwir yn "Fam Fawr" a "Duw Corniog Mawr". Cred rhai Wiciaid mai rhan o ddiwinyddiaeth holldduwiaethol ydyn nhw.
Mae Wiciaid yn dathlu gweddau'r lleuad, a elwir yn esbatau lle anrhydeddir y Dduwies, a gweddau'r haul sydd yn wyliau tymhorol a elwir yn sabatau neu wyliau lle anrhydeddir y Duw Corniog. Ceir testun y'i hystyrir yn sanctaidd gan gynifer o draddodiadau Wicaidd o'r enw'r Cyngor Wicaidd, ond nid ydy pob traddodiad yn ei weld yn sanctaidd. Mae Wica yn cynnwys ymarfer hudoliaeth a gwrachyddiaeth.