Wicipedia:Ar y dydd hwn/6 Awst
From Wikipedia, the free encyclopedia
6 Awst Dydd Gŵyl y seintiau Arthfael a Rhedyw.
- 1945 (78 blynedd yn ôl) – Unol Daleithiau America yn bomio Hiroshima â bom atomig; erbyn diwedd y flwyddyn roedd 140,000 wedi marw
- 1928 (95 blynedd yn ôl) – ganwyd yr arlunydd Americaniad Andy Warhol († 1987)
- 1946 (77 blynedd yn ôl) – ganwyd Ron Davies, gwleidydd Cymreig, a 'phensaer' y syniad o Ddatganoli
- 1962 (61 blynedd yn ôl) – Jamaica'n torri'n rhydd o Brydain gan ddod yn wladwriaeth annibynnol
- 1991 (32 blynedd yn ôl) – Tim Berners-Lee yn "dyfeisio'r" We Fyd Eang drwy gyhoeddi memo yn gwahodd pobl y tu allan i CERN i gydweithio ar y prosiect.