gwyddoniadur rhydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyddoniadur rhyngwladol, amlieithog a reolir gan y Sefydliad Wicimedia yw Wicipedia (Saesneg: Wikipedia). Dechreuodd y fersiwn Saesneg ar 15 Ionawr 2001, ac yn ystod y pum mlynedd ddilynol, dechreuwyd fersiynau mewn dros 200 iaith arall. Ar ddiwedd 2001, roedd dros 20,000 erthygl yn y fersiwn Saesneg a 18 o wahanol ieithoedd. Erbyn Mehefin 2010, roedd 3.3 miliwn erthygl.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Logo Wicipedia - glôb sy'n cynnwys glyffiau o wahanol systemau ysgrifennu | |
URL | wikipedia.org |
---|---|
Slogan | Y gwyddoniadur rhydd y gall unrhyw un ei olygu. |
Masnachol? | Na |
Math o wefan | Dielw |
Cofrestru | Dewisol (angen er mwyn diogelu tudalennau a gweithrediadau gweinyddol ayyb) |
Ieithoedd ar gael | 269 iaith weithredol (281 ar y cyfan) |
Perchennog | Wikimedia Foundation (dielw) |
Crëwyd gan | Jimmy Wales, Larry Sanger[1] |
Lansiwyd ar | 14 Gorffennaf 2003 (fersiwn Cymraeg); 15 Ionawr 2001 (fersiwn Saesneg) |
Statws cyfredol | Gweithredol |
Lansiwyd y Wicipedia Cymraeg ar 14 Gorffennaf 2003. Roedd dros 21,600 erthygl yn y Wicipedia Cymraeg ym Mai 2009 ac roedd yn 60ain o ran safle ieithyddol â 5,500 o ddefnyddwyr cofrestredig. Erbyn Rhagfyr 2010 roedd nifer yr erthyglau wedi codi i dros 30,000 a'i safle ar y rhestr yn 66ed. Ar hyn o bryd, ceir 281,004 erthygl ar y fersiwn Cymraeg, sef y 42fed iaith allan o 332 iaith. Yn 2012 roedd y nifer o dudalennau a oedd yn cael eu hagor ar y Wicipedia Cymraeg (ar gyfartaledd y diwrnod) yn: 62,161.[2]
Ymhlith y fersiynau eraill o Wicipedia a geir mae Catalaneg, Llydaweg a Gwyddeleg.
Mae gan brosiect Wicipedia pedair nodwedd bwysig, sy'n diffinio'i le ar y we fyd-eang:
Mae "fandaliaeth" yn fater pwysig ar Wicipedia: fandaliaeth ydy gosod dwli, nonsens, neu unrhyw wybodaeth anghywir (yn fwriadol) mewn erthyglau. Mae erthyglau sydd wedi cael eu fandaleiddio yn cael eu gwrthdroi ac mae'n bosibl gwahardd y fandal.
Mae cyfranogwyr Wicipedia'n dilyn ychydig o bolisïau sylfaenol.
Mae Wicipedia wedi cael ei newid gan filoedd o bobl. Mae Wicipedia yn galw pobl sydd yn ei newid yn Wicipedwyr. Mae cyfanswm y newidiadau yn y fersiwn Saesneg wedi dyblu rhwng Ionawr 2002 ac Ionawr 2003, o 1000 y dydd i 2000 y dydd.
Does dim prif newidiwr, fel y mae. Y ddau berson a sefydlodd Wicipedia yw Jimmy Wales (Prif Swyddog Gweithredol y cwmni bach rhyngrwyd Bomis Inc) a Larry Sanger. Yn y 13 mis cyntaf talwyd Sanger gan Bomis i weithio ar Wicipedia. Dywedwyd bod Sanger wedi cymryd rôl canolwr, yn gwneud penderfyniadau mewn amser o ddadlau poeth. Nid oedd hyn yn seiliedig ar awdurdod ffurfiol, ond gofynion y defnyddwyr. Daeth yr arian ar gyfer ei safle i ben, yn dilyn ei ymddeoliad yn Chwefror 2002. Mae gweithwyr Bomis, sydd wedi gweithio ar y gwyddoniadur, yn cynnwys Tim Shell, un o gyd-sefydlwyr Bomis, a hefyd Jason Richey a Toan Vo.
Dywedodd Richard Stallman, yr ymgyrchydd dros feddalwedd di-dâl, fod sefydliad Wicipedia yn "newyddion cyffrous".
UseModWiki, a ysgrifennwyd gan Clifford Adams ("Cyfnod I"), oedd y fersiwn o feddalwedd wici a ddefnyddid i gynnal Wicipedia yn wreiddiol. I gychwyn, roedd rhaid defnyddio CamelCase ar gyfer dolenni, ond yn fuan roedd yn bosibl defnyddio'r dull cromfachau dwbl presennol. Yn Ionawr 2002, fe gychwynnodd Wicipedia ddefnyddio meddalwedd wici PHP a ysgrifennwyd ar gyfer Wicipedia gan Magnus Manke, gyda chronfa ddata MySQL, ac ychwanegwyd sawl rhinwedd newydd ("Cyfnod II"). Ar ôl ychydig, arafodd y safle nes bod golygu bron yn amhosibl; fe newidiwyd y feddalwedd sawl tro ond dim ond am ychydig y lleddfodd hynny'r broblem. Yna, ysgrifennodd Lee Daniel Crocker y feddalwedd o'r newydd, ac mae'r fersiwn newydd, sy'n llawer gwell, wedi bod yn rhedeg ers Gorffennaf 2002. Gelwid y meddalwedd "Cyfnod III" hwn yn MediaWiki. Ers hynny, mae Brion Vibber wedi ymgymryd â thrwsio gwallau.
Yn Rhagfyr 2009 roedd 300 gweinydd (Saesneg: server) yn Fflorida a 44 yn Amsterdam yn cynnal holl wybodaeth Wikipedia.[3] Tan 2004 un gweinydd oedd yn dal yr holl wybodaeth.
Cynhelir y prosiect ar weinydd neilltuol, a leolwyd yn San Diego. Mae'r gweinydd hwn yn gyfrifol am Wicipedia ymhob iaith. CPU Athlon deublyg 1700+ ydyw, gyda 2 GB o RAM, ac yn rhedeg Red Hat Linux â'r gweinydd gwe Apache.
Yng Ngorffennaf 2013 bydd rhyngwyneb Wicipedia yn newid (pob iaith), gan symlhau'r weithred o olygu. Bydd y "Golygydd Gweladwy" (Visual Editor) yn caniatau golygu ar y sgrin, yn ogystal â thrwy'r ffenestr olygu a wici-gôd arferol.[4] Dywedir mai hwn fydd y datblygiad mwyaf, yn weladwy, o fewn Wicipedia ers ei chreu. Ni fydd yn gweithio ar y tudalennau Sgwrs, fodd bynnag.
Mae gan Wicipedia brosiectau cysylltiedig:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.