From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD), a adwaenir yn anffurfiol fel y Confensiwn Bioamrywiaeth, yn gytundeb amlochrog. Mae gan y Confensiwn dri phrif nod: gwarchod amrywiaeth fiolegol (neu fioamrywiaeth); defnydd cynaliadwy; a rhannu buddion sy'n deillio o adnoddau genetig yn deg a chyfiawn. Adnoddau genetig yw unrhyw ddeunydd sy'n dod o blanhigyn, anifail, microbaidd neu darddiad arall sy'n cynnwys unedau etifeddol. Ei nod yw datblygu strategaethau cenedlaethol ar gyfer cadwraeth a defnydd cynaliadwy o amrywiaeth fiolegol, ac fe'i hystyrir yn aml fel y ddogfen allweddol ynghylch datblygu cynaliadwy.
Enghraifft o'r canlynol | United Nations treaty |
---|---|
Dyddiad | 8 Mehefin 1992 |
Dechrau/Sefydlu | 29 Rhagfyr 1993 |
Lleoliad | Rio de Janeiro |
Prif bwnc | Bioamrywiaeth |
Gwefan | http://www.cbd.int/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Agorwyd y Confensiwn i'w lofnodi yn Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio de Janeiro ar 5 Mehefin 1992 a daeth i rym ar 29 Rhagfyr 1993. Yr Unol Daleithiau yw'r unig aelod-wladwriaeth y Cenhedloedd Unedig sydd heb gadarnhau'r Confensiwn.[1] Mae ganddo ddau gytundeb atodol, Protocol Cartagena a Phrotocol Nagoya.
Mae Protocol Cartagena ar Fioddiogelwch i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (Saes. The Cartagena Protocol on Biosafety to the Convention on Biological Diversity) yn gytundeb rhyngwladol sy'n rheoli symudiadau organebau byw wedi'u haddasu (LMOs) sy'n deillio o fiotechnoleg fodern o un wlad i'r llall. Fe'i mabwysiadwyd ar 29 Ionawr 2000 fel cytundeb atodol i'r CBD a daeth i rym ar 11 Medi 2003.
Mae Protocol Nagoya ar Fynediad at Adnoddau Genetig a Rhannu'n Deg a Theg Buddion sy'n Deillio o'u Defnydd (ABS) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn gytundeb atodol arall i'r CBD. Mae'n darparu fframwaith cyfreithiol tryloyw ar gyfer gweithredu un o dri amcan y CBD yn effeithiol: rhannu buddion yn deg a chyfiawn, sy'n dod o'r defnydd o adnoddau genetig. Mabwysiadwyd Protocol Nagoya ar 29 Hydref 2010 yn Nagoya, Japan, a daeth i rym ar 12 Hydref 2014.
Roedd 2010 hefyd yn Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth, ac Ysgrifenyddiaeth y CBD oedd ei ganolbwynt. Yn dilyn argymhelliad gan lofnodwyr CBD yn Nagoya, datganodd y Cenhedloedd Unedig y cyfnod 2011 i 2020 fel Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Fioamrywiaeth. Mae Cynllun Strategol y Confensiwn ar gyfer Bioamrywiaeth 2011-2020, a grëwyd yn 2010, yn cynnwys Targedau Bioamrywiaeth Aichi.
Gelwir cyfarfodydd y Partïon i'r Confensiwn yn 'Gynadleddau'r Partïon' (Conferences of the Parties, neu COP), gyda'r un cyntaf (COP 1) yn cael ei gynnal yn Nassau, y Bahamas, ym 1994 a COP 27 yn Sharm El Sheikh, Yr Aifft.[2]
Ym maes bioamrywiaeth forol ac arfordirol, ffocws CBD ar hyn o bryd yw nodi Ardaloedd Morol o Arwyddocâd Ecolegol neu Fiolegol (EBSAs) mewn lleoliadau cefnfor penodol yn seiliedig ar feini prawf gwyddonol. Y nod yw creu offeryn cyfreithiol rwymol rhyngwladol (ILBI) sy'n cynnwys cynllunio ar sail ardal a gwneud penderfyniadau o dan UNCLOS i gefnogi cadwraeth a defnydd cynaliadwy o amrywiaeth fiolegol morol y tu hwnt i feysydd awdurdodaeth genedlaethol (BBNJ).
Cafodd y syniad o gonfensiwn rhyngwladol ar fioamrywiaeth ei lunio yng Ngweithgor Ad Hoc o Arbenigwyr ar Amrywiaeth Fiolegol Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) yn Nhachwedd 1988. Y flwyddyn ddilynol, sefydlwyd Gweithgor Ad Hoc o Arbenigwyr Technegol a Chyfreithiol ar gyfer drafftio testun cyfreithiol a oedd yn mynd i'r afael â chadwraeth a'r defnydd cynaliadwy o amrywiaeth fiolegol, yn ogystal â rhannu buddion sy'n deillio o'u defnydd â gwladwriaethau sofran a chymunedau lleol. Ym 1991, sefydlwyd pwyllgor negodi rhynglywodraethol, gyda'r dasg o gwblhau testun y Confensiwn yn derfynol.[3]
Ar 1 Rhagfyr 2019 penodwyd Elizabeth Maruma Mrema, cyfreithwraig o Dansanïa yn ysgrifennydd gweithredol dros dro.
Corff llywodraethu'r Confensiwn yw Cynhadledd y Partïon (COP), sy'n cynnwys yr holl lywodraethau (a sefydliadau integreiddio economaidd, rhanbarthol) sydd wedi cadarnhau'r cytundeb. Mae'r awdurdod terfynol hwn yn adolygu cynnydd o dan y Confensiwn, yn nodi blaenoriaethau newydd, ac yn gosod cynlluniau gwaith ar gyfer yr aelodau. Gall COP hefyd wneud diwygiadau i'r Confensiwn, creu cyrff cynghori arbenigol, adolygu adroddiadau cynnydd gan aelod-wladwriaethau, a chydweithio â sefydliadau a chytundebau rhyngwladol eraill.
Mae Cynhadledd y Partïon yn defnyddio arbenigedd a chefnogaeth gan nifer o gyrff eraill a sefydlir gan y Confensiwn. Yn ogystal â phwyllgorau neu fecanweithiau a sefydlwyd ar sail ad hoc, y prif organau yw:
Mae Ysgrifenyddiaeth CBD, sydd wedi'i lleoli ym Montreal, Quebec, Canada, yn gweithredu o dan UNEP, Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (United Nations Environment Programme). Ei brif swyddogaeth yw trefnu cyfarfodydd, drafftio dogfennau, cynorthwyo aelod-lywodraethau i weithredu'r rhaglen waith, cydlynu â sefydliadau rhyngwladol eraill, a chasglu a lledaenu gwybodaeth.
Mae'r SBSTA (Subsidiary Body for Scientific, Technical and Technological Advice) yn bwyllgor sy'n cynnwys arbenigwyr o aelod-lywodraethau sy'n gymwys mewn meysydd perthnasol. Mae'n chwarae rhan allweddol wrth wneud argymhellion i'r COP ar faterion gwyddonol a thechnegol. Mae'n darparu asesiadau o statws amrywiaeth fiolegol ac o fesurau amrywiol a gymerwyd yn unol â'r Confensiwn, ac mae hefyd yn rhoi argymhellion i Gynhadledd y Partïon, y gellir eu cymeradwyo'n gyfan gwbl, yn rhannol neu wedi'u hadasu gan y COPs.[4]
Yn 2014, sefydlwyd Is Gorff ar Weithredu (SBI) i ddisodli'r Gweithgor Penagored Ad Hoc ar Adolygu Gweithredu'r Confensiwn. Pedwar swyddogaeth a maes gwaith craidd SBI yw:
Cynhaliwyd Cynhadledd y Pleidiau (COP) yn flynyddol am dair blynedd ar ôl 1994, ac yna bob dwy flynedd ar flynyddoedd eilrif.
Cynhaliwyd cyfarfod cyffredin cyntaf y Partïon i'r Confensiwn yn Nhachwedd a Rhagfyr 1994, yn Nassau, Bahamas.[6]
Cynhaliwyd ail gyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn yn Nhachwedd 1995, yn Jakarta, Indonesia.[7]
Cynhaliwyd trydydd cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn yn Nhachwedd 1996, yn Buenos Aires, yr Ariannin.[8]
Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn ym Mai 1998, yn Bratislava, Slofacia.[9]
Cynhaliwyd Cyfarfod Arbennig Cyntaf Cynhadledd y Pleidiau yn Chwefror 1999, yn Cartagena, Colombia.[10] Arweiniodd cyfres o gyfarfodydd at fabwysiadu Protocol Cartagena ar Bioddiogelwch yn Ionawr 2000, a ddaeth i rym o 2003.[11]
Cynhaliwyd pumed cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn ym Mai 2000, yn Nairobi, Kenya.[12]
Cynhaliwyd chweched cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn yn Ebrill 2002, yn yr Hâg, yr Iseldiroedd.[13]
Cynhaliwyd seithfed cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn yn Chwefror 2004, yn Kuala Lumpur, Malaysia.[14]
Cynhaliwyd wythfed cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn ym mis Mawrth 2006, yn Curitiba, Brasil.[15]
Cynhaliwyd nawfed cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn ym Mai 2008, yn Bonn, yr Almaen.[16]
Cynhaliwyd degfed cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn yn Hydref 2010, yn Nagoya, Japan.[17] Yn y cyfarfod hwn y cadarnhawyd Protocol Nagoya .
2010 oedd Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth ac Ysgrifenyddiaeth y CBD oedd ei ganolbwynt. Yn dilyn argymhelliad gan lofnodwyr CBD yn ystod COP 10 yn Nagoya, datganodd y Cenhedloedd Unedig, ar 22 Rhagfyr 2010, 2011 i 2020 fel Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Fioamrywiaeth.
Yn arwain at gyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP 11) ar fioamrywiaeth yn Hyderabad, India, 2012, mae paratoadau ar gyfer Safbwyntiau Byd Eang ar Fioamrywiaeth wedi dechrau, gan gynnwys partneriaid hen a newydd ac adeiladu ar brofiadau Barn Fyd-eang ar Gynesu Byd-eang. [18]
O dan y thema, "Bioamrywiaeth ar gyfer Datblygu Cynaliadwy", ymgasglodd miloedd o gynrychiolwyr llywodraethau, cyrff anllywodraethol, pobl frodorol, gwyddonwyr a'r sector preifat yn Pyeongchang, Gweriniaeth Corea yn Hydref 2014 ar gyfer 12fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (COP 12).[19][20]
Rhwng 6 a 17 Hydref 2014, bu'r Partïon yn trafod gweithredu'r Cynllun Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth 2011-2020 a'i Dargedau Bioamrywiaeth Aichi, a oedd i'w cyflawni erbyn diwedd 2020. Roedd canlyniadau Global Biodiversity Outlook 4, sef adroddiad asesu blaenllaw'r CBD, yn sail i'r trafodaethau.
Cynhaliwyd trydydd cyfarfod ar ddeg o'r Partïon i'r Confensiwn rhwng 2 a 17 Rhagfyr 2016 yn Cancún, Mecsico.
Cynhaliwyd 14eg cyfarfod cyffredin y Partïon i'r Confensiwn ar 17-29 Tachwedd 2018, yn Sharm El-Sheikh, yr Aifft.[21] Daeth Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig 2018 i ben ar 29 Tachwedd 2018 gyda chytundeb rhyngwladol eang ar wrthdroi dinistr byd-eang natur a cholli bioamrywiaeth sy'n bygwth pob math o fywyd ar y Ddaear. Mabwysiadodd y Partion y Canllawiau Gwirfoddol ar gyfer dylunio a gweithredu'n effeithiol ddulliau seiliedig ar ecosystemau o addasu i newid yn yr hinsawdd a lleihau'r risg o drychinebau.[22] Cytunodd llywodraethau hefyd i gyflymu camau gweithredu i gyflawni Targedau Bioamrywiaeth Aichi, y cytunwyd arnynt yn 2010, tan 2020. Byddai gwaith i gyrraedd y targedau hyn yn digwydd ar y lefelau byd-eang, rhanbarthol, cenedlaethol ac is-genedlaethol.
Yn wreiddiol roedd 15fed cyfarfod y Partion i fod i gael ei gynnal yn Kunming, Tsieina yn 2020,[23] ond cafodd ei ohirio sawl gwaith oherwydd y pandemig COVID-19, a darddodd yn Tsieina.[24] Ar ôl i'r dyddiad cychwyn gael ei ohirio am y trydydd tro, rhannwyd y Confensiwn yn ddwy sesiwn. Cynhaliwyd digwyddiad ar-lein yn bennaf yn Hydref 2021, lle llofnododd dros 100 o genhedloedd ddatganiad Kunming ar fioamrywiaeth. Thema'r datganiad oedd "Gwareiddiad Ecolegol: Creu Dyfodol a Rennir gan Bopeth Bywyd ar Wyneb Daear".[25][26] Cytunwyd dros dro ar ddau-ddeg-un o dargedau-gweithredu, drafft yng nghyfarfod mis Hydref, i'w trafod ymhellach yn yr ail sesiwn: digwyddiad wyneb-yn-wyneb a aildrefnwyd i ddigwydd yn 2022.[27][28][29][30] Cynhaliwyd COP 15 ym Montreal, Canada, rhwng 5 ac 19 Rhagfyr 2022, lle mabwysiadwyd Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal ar 19 Rhagfyr 2022.[31]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.