![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/90/Maine_explosion.jpg/640px-Maine_explosion.jpg&w=640&q=50)
Rhyfel Sbaen ac America
rhyfel yn 1898 rhwng Sbaen ac Unol Daleithiau America / From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhyfel imperialaidd rhwng Sbaen ac Unol Daleithiau America ym 1898 oedd Rhyfel Sbaen ac America. Ym 1896 penodwyd y Cadfridog Valeriano Weyler i lywodraethu ynys Ciwba, gwladfa a fu'n gwrthryfela yn erbyn Ymerodraeth Sbaen ers y 1860au. Dechreuodd y frwydr ddiweddaraf dros annibyniaeth ym 1895, ac ymatebodd Weyler drwy sefydlu gwersylloedd crynhoi i garcharu gwrthryfelwyr a'r rhai oedd yn eu cefnogi. Anogwyd ymyrraeth yng Nghiwba gan ddiddordebau busnes Americanaidd a oedd yn buddsoddi yn niwydiant siwgr yr ynys. Taniwyd y rhyfel gan suddo'r USS Maine, llong o Lynges yr Unol Daleithiau, yn Harbwr La Habana ar 15 Chwefror 1898.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1898 ![]() |
Rhan o | Chwyldro'r Philipinau, Rhyfel Annibyniaeth Ciwba ![]() |
Dechreuwyd | 25 Ebrill 1898 ![]() |
Daeth i ben | 11 Awst 1898 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Rhyfel Annibyniaeth Ciwba ![]() |
Lleoliad | Môr y Caribî ![]() |
Yn cynnwys | Brwydr Santiago de Cuba ![]() |
![]() |
Cau
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/23/Tank_template.svg/34px-Tank_template.svg.png)