Abaty Cwm-hir

abaty rhestredig Gradd II* yn Abaty Cwm-hir From Wikipedia, the free encyclopedia

Abaty Cwm-hir
Remove ads

Abaty yn perthyn i Urdd y Sistersiaid oedd Abaty Cwm-hir, neu Abaty Cwm Hir. Saif i'r gogledd o dref Llandrindod, Powys.

Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Mae'r erthygl hon yn trafod yr abaty. Am y gymuned o'r un enw, gweler Abaty Cwm-hir (cymuned)

Sefydlwyd y fynachlog yn 1143, a chafodd ei hail-sefydlu gan fynachod o Abaty Hendy-gwyn yn 1176. Sefydlwyd Abaty Cymer gan fynachod oddi yma yn 1198. Cafodd nawdd Llywelyn Fawr, ac mae eglwys yr abaty y fwyaf yng Nghymru, 75 medr o hyd. Claddwyd corff Llywelyn ap Gruffudd yma wedi ei ladd yng Nghilmeri yn Rhagfyr, 1282.

Erbyn 1381, dim ond wyth mynach oedd yn weddill yma, a dinistriwyd yr abaty yn rhannol yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr.

Remove ads

Archaeoleg

Cafwyd peth cloddio mor bell yn ôl â'r 1820au a'r 1890au. Bu nifer o archwiliadau'n ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, gan gychwyn yn 1988.

Cymuned

Mae Abaty Cwm-hir hefyd yn Gymuned.

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads