Abaty Cwm-hir (cymuned)
plwyf eglwysig hanesyddol yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Abaty Cwm-hir[1] neu Abaty Cwm Hir (Saesneg: Abbeycwmhir neu Abbey Cwmhir). Saif ger Afon Clywedog, i'r gogledd o dref Llandrindod.
Enwyd y pentref a'r gymuned ar ôl Abaty Cwm-hir, abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1143. Dim ond adfeilion sydd ar ôl bellach, ond gan yr abaty yma yr oedd yr eglwys fwyaf o abatai Cymru. Yma y claddwyd Llywelyn ap Gruffudd.
Ail-adeiladwyd eglwys pentref Abaty Cwm-hir yn 1866. Mae yma dafarn, yr Happy Union Inn, sy'n adeilad cofrestredig. Adeiladwyd Neuadd Cwm-hir yn 1867. Mae Llwybr Glyn Dŵr yn mynd trwy'r gymuned.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads