Aberaeron

tref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Aberaeron
Remove ads

Tref arfordirol a chymuned yng Ngheredigion, Cymru, yw Aberaeron. Saif ar briffordd yr A487 tua hanner ffordd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. Mae lôn arall, yr A482, yn cysylltu'r dref â Llanbedr Pont Steffan i'r dwyrain.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Gweler hefyd Aeron (gwahaniaethu).

Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol — o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.

Crëwyd harbwr ar geg Afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron. Mae'r traeth yn braf ac wedi ennill baner las am ei lendid.

Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys Cyngor Sir Ceredigion. Mae 1,422 o bobl yn byw yn y dref ac mae tua 60% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg (2011); un o'r canrannau uchaf ar arfordir Ceredigion heddiw. Yr Aelod lleol o Senedd Cymru yw Elin Jones (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ben Lake (Plaid Cymru).

Gerllaw ceir plasdy hynafol Llannerch Aeron, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Lleolir Ysgol Gyfun Aberaeron yn y dref.


Remove ads

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Enwogion

  • Syr Geraint Evans - bu'r canwr opera enwog yn byw yn Aberaeron am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Gweler hefyd

Thumb

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads