Afon Bidasoa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Afon yng Ngwlad y Basg sy'n ffurfio rhan o'r ffin rhwng Sbaen a Ffrainc yw Afon Bidasoa (Ffrangeg: Bidassoa).
Mae'r afon yn tarddu yn y Pyreneau yn Navarra. Fe'i gelwir yn Afon Baztan hyd nes iddi gyrraedd Oronoz-Mugairi, lle mae'n newid ei henw i Afon Bidasoa. Ffurfia'r ffin rhwng Sbaen a Ffrainc am 10 km cyn cyrraedd y môr ym Mae Bizkaia; mae ei haber rhwng Hendaia a Hondarribia. Ceir pysgota am eog a brithyll ynddi.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads