Alaska

talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Alaska
Remove ads

49fed talaith yr Unol Daleithiau (UDA) yw Alaska neu yn Gymraeg Alasga.[1] Fe'i derbyniwyd i'r undeb ar 3 Ionawr 1959. Yn 2000 roedd poblogaeth y dalaith yn 626,932.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Daeth pobl i Alaska gyntaf dros Pont Tir Bering. Yn raddol cyfaneddwyd hi gan lwythau Esgimo fel yr Inupiaq, yr Inuit a'r Yupik, a brodorion Americanaidd fel yr Aleut. Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf yn awgrymu i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd Alaska trwy Rwsia.

Thumb
Lleoliad Alaska yn yr Unol Daleithiau
Remove ads

Daeareg

Mae toreth o ynysoedd a 54,720 km (34,000 milltir) o draethau yn Alaska, gan gynnwys Ynysoedd Aleutia. Ceir ar yr ynysoedd hyn lawer o losgfynyddoedd megis Mount Shishaldin ar Ynys Unimak, sy'n codi 3,048 o fetrau (10,000 o droedfeddi) uwchlaw'r môr ac a welir yn mygu'n achlysurol. Credir mai dyma'r côn mwyaf perffaith yn y byd o ran siâp, hyd yn oed yn berffeithiach na Mount Fuji yn Japan. Mae'r mwclis o losgfynyddoedd yn llifo i'r tir mawr lle gwelir Mount Spurr i'r gorllewin o Anchorage. Cred y daearegwyr fod rhanbarth eitha eang o dir sy'n cynyddu'n ddyddiol o ran maint, gelwir yr ardal yma'n Wrangellia ac mae'n cwmpasu sawl talaith arall a rhan o Ganada.

Ceir un o'r llanw mwya'n y byd ym Mraich Turnagain i'r de o Anchorage - gall y gwahaniaeth uchder rhwng y llanw a'r trai yn y rhan hon o'r byd fod cymaint â 10.7 m (35 troedfedd).

Mae gan y wlad dros dair miliwn o lynnoedd. Ceir rhew parhaol (neu permaffrost) yn gorchuddio 487,747 km2 (188,320 milltir) o dir yn y gogledd a'r de-orllewin. Mae rhewlifoedd yno hefyd: dros 41,440 km2 (16,000 milltir sgwâr) o'r tir. Un o'r rhewlifoedd mwyaf yw Rhewlif Bering ger Yukon, sydd ar ei ben ei hun yn gorchuddio dros 5,827 km2 (2,250 millt sg) o dir. Ceir tua 100,000 rhewlif i gyd: hanner cyfanswm y byd!

Remove ads

Dinasoedd Alaska

1Anchorage291,826
2Juneau31,275
3Fairbanks31,535
4Sitka8,986
5Ketchikan8,050
6Nome3,598
7Ruby169
8Wales145

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads