Algorithm

From Wikipedia, the free encyclopedia

Algorithm
Remove ads

Term a ddefnyddir o fewn mathemateg a gwyddor cyfrifiadur yw algorithm. Mae'n diffinio set o weithrediadau i'w perfformio un cam ar y tro. Gall algorithmau berfformio tasgau cyfrif, prosesu data, ac/neu dasgau rhesymu awtomatig.

Ffeithiau sydyn Math, Rhan o ...
Thumb
Animeiddiad o'r algorithm Quicksort sy'n trefnu rhes o werthoedd a ddewiswyd ar hap. Cynrychiolir y gwerthoedd yma gan uchder y bariau. Drwy ddilyn cyfres o gyfarwyddiadau sy'n cynnwys cymharu gwerthoedd ar y naill ochr a'r llall i elfen golyn (y bar coch), a'u cyfnewid lle bo angen, mae'r algorithm yn rhoi'r gwerthoedd mewn trefn yn gyflym ac yn effeithlon.

Gellir defnyddio'r term yn anffurfiol i ddisgrifio pob rhaglen gyfrifiadurol, ond yn dechnegol, dylid defnyddio 'algorithm' ond i ddisgrifio rhaglen y bydd yn sicr, yn y diwedd, o ddod i derfyn y dasg.[1]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads