Alice Walker

actores a aned yn Eatonton yn 1944 From Wikipedia, the free encyclopedia

Alice Walker
Remove ads

Awdures Americanaidd yw Alice Walker (ganwyd 9 Chwefror 1944) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, nofelydd, awdur ysgrifau academydd ac ymgyrchydd hawliau sifil.

Ffeithiau sydyn Llais, Ganwyd ...

Ysgrifennodd y nofel The Color Purple (1982), ac enillodd Wobr y Llyfr Cenedlaethol am ffuglen caled, a Gwobr Ffuglen Pulitzer. Ysgrifennodd hefyd y nofelau Meridian (1976) a The Third Life of Grange Copeland (1970), ymhlith gweithiau eraill. Roedd Walker yn ffeminist o'i chorun i'w sowdl, a hi yn anad neb arall a fathodd y gair "womanist" i olygu, yn ei geiriau hi, "A black feminist or feminist of color".[1]

Remove ads

Magwraeth a choleg

Cafodd Alice Malsenior Tallulah-Kate Walker ei geni yn Eatonton, Georgia ar 9 Chwefror 1944 i Willie Lee Walker a Minnie Tallulah Grant.[2][3] Gweithiodd y ddau ar y tir, a gweithiai ei mam hefyd fel gwniadwraig, i ennill ychyig rhagor o arian. Cofrestrwyd Walker, yr ieuengaf o wyth o blant, yn yr ysgol am y tro cyntaf pan oedd hi ond yn bedair oed yn East Putnam Consolidated. Pan oedd yn 8 oed, saethwyd hi yn ei llygaid gan ei brawf, mewn damwain, a bu'r llygad hwnnw'n ddall am weddill ei hoes.

Remove ads

Llenyddiaeth

Yn 1976, cyhoeddwyd ail nofel Walker, Meridian. Mae Meridian yn nofel am ymgyrchwyr yn y De, yn ystod y mudiad hawliau sifil, gyda digwyddiadau sy'n cyd-fynd yn agos â rhai o brofiadau Walker ei hun. Ym 1982, cyhoeddodd yr hyn a ystyrir, bellach, fel ei gwaith mwyaf adnabyddus, The Colour Purple. Mae'r nofel yn dilyn menyw ddu, ifanc gythryblus yn ymladd ei ffordd drwy nid yn unig ddiwylliant gwyn hiliol ond diwylliant du patriarchaidd hefyd. Daeth y llyfr yn 'werthwr gorau' ac yna cafodd ei addasu i fod yn ffilm yn 1985, ffilm a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg, gyda Oprah Winfrey a Whoopi Goldberg, yn ogystal ag asiad ar ffurf sioe gerdd (2005) yn Broadway, gyda 910 o berfformiadau.

Hi hefyd a sgwennodd: The Temple of My Familiar a Possessing the Secret of Joy.

Yn 2013, cyhoeddodd Alice Walker ddau lyfr newydd, un ohonynt o'r enw The Cushion in the Road: Meditation and Wandering as the Whole World Awakens to Being in Harm's Way. Y llall oedd llyfr o gerddi o'r enw The World Will Follow Joy Turning Madness into Flowers (New Poems).

Remove ads

Ymgyrchydd

Cyfarfu Walker â Martin Luther King pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Spelman ar ddechrau'r 1960au. Mae hi'n cydnabod i King ddylanwadu ar ei phenderfyniad i ddychwelyd i Dde America fel ymgyrchydd yn y Mudiad Hawliau Sifil. Cymerodd ran yn 1963 mewn 'Gorymdaith ar Washington'. Yn ddiweddarach, gwirfoddolodd i gofrestru pleidleiswyr du yn Georgia a Mississippi.[4][5]

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8 Mawrth 2003, ar drothwy Rhyfel Irac, arestiwyd Walker gyda 26 arall, gan gynnwys cyd-awduron Maxine Hong Kingston a Terry Tempest Williams, mewn protest y tu allan i'r Tŷ Gwyn, am groesi llinell heddlu yn ystod rali yn erbyn y rhyfel. Ysgrifennodd Walker am y profiad yn ei thraethawd "Ni yw'r Rhai y Buom yn Aros Amdanynt".[6]

Aelodaeth

Bu'n aelod o Alpha Kappa Alpha am rai blynyddoedd. [7][8]

Anrhydeddau

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1977), Gwobr Llyfrau Lillian Smith (1973), Gwobr Llyfrau Lillian Smith (1984), dyneiddiwr (1997), Gwobr Pulitzer am Ffuglen (1983), Gwobr Candace (1982), Neuadd Enwogion California (2006), Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg (2016), Gwobr Ariannol Lennon Ono (2010), Gwobr O. Henry (1986), Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman (1995), Gwobr Cenedlaethol y Llyfr (1983)[9][10][11][12][13][14][15] .
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads