Allen Clement Edwards
gwleidydd, bargyfreithiwr, undebwr llafur (1869-1938) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Allen Clement (Clem) Edwards (7 Mehefin 1869 – 23 Mehefin 1938) yn gyfreithiwr, yn undebwr llafur, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol. Roedd yn gefnogwr brwd o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn un o sylfaenwyr y blaid o blaid y rhyfel Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur ac yn gadeirydd y blaid yn y senedd.
Remove ads
Bywyd personol
Ganwyd (Clem) Edwards ym 1869 yn Nhrefyclawdd, yn fab i George Benjamin Edwards, dilledydd ac ocsiwnïer a Sarah (née Tudge) ei wraig.[1] Cafodd ei addysgu yn ysgol leol Trefyclawdd ac mewn dosbarthiadau nos yng Ngholeg Birkbeck yn Llundain.
Priododd Fanny Emerson ym 1890, bu hi farw ym 1920. Priododd ei ail wraig Alice May Parker ym 1922 a bu iddynt un mab.
Gyrfa
Dechreuodd Edwards ei yrfa yn y gyfraith yn gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr yn Nhrefyclawdd.[2] Ym 1899, galwyd ef i'r Bar gan y Deml Ganol. Roedd yn arbenigwr mewn achosion undebau llafur gan gynrychioli'r gweithwyr mewn nifer o achosion pwysig megis achos Taff Vale Railway ym 1901[3] a'r ymchwiliad i Danchwa Senghennydd.[4]
Yn ogystal â chynnig cyngor cyfreithiol i'r undebau roedd Edwards hefyd yn weithgar fel trefnydd undebau. Fe fu yn ysgrifennydd cynorthwyol Undeb Llafurwyr Cyffredinol y Dociau, Glanfeydd a Glannau’r Afon ac Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Undebau'r Dociau a Thrafnidiaeth. Fe fu'n cynrychioli'r undebau hyn yn yr ymchwiliad i suddo'r RMS Titanic.
Yn ogystal â'i waith ym myd y gyfraith a'r undebau yr oedd hefyd yn newyddiadurwr blaenllaw gan weithio fel gohebydd materion Llafur ar The London Sun, The London Echo a'r Daily News.
Remove ads
Gyrfa wleidyddol
Er ei fod yn Undebwr Llafur brwd doedd Edwards ddim yn gefnogol o'r Blaid Lafur. Cafodd ei ethol i gyngor Islington ym 1898. Safodd yn aflwyddiannus am sedd seneddol Tottenham fel Rhyddfrydwr yn etholiad 1895 ac ym Mwrdeistrefi Dinbych ym 1900. Safodd eto yn Ninbych ym 1906 gan gipio'r sedd. Methodd i gael ei ailethol yno yn Ionawr 1910 gan golli o ddim ond wyth bleidlais. Yn etholiad Tachwedd 1910 safodd i'r Rhyddfrydwyr yn etholaeth Dwyrain Morgannwg gan gipio'r sedd.[5] Cafodd etholaeth Dwyrain Morgannwg ei ddileu ar gyfer etholiad 1918.
O herwydd ei gefnogaeth brwd i achos y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd Edwards ei ddenu gan fudiad o'r enw Cynghrair Gweithwyr Prydain a oedd yn ceisio hybu achos y rhyfel ym mysg y dosbarth gweithiol. Pan dynnodd y Blaid Lafur allan o'r Llywodraeth Clymblaid ar gyfer etholiad 1918 trodd y Gynghrair yn blaid wleidyddol llafuraidd a oedd yn parhau i gefnogi'r Glymblaid Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur (NDP). Safodd Edwards yn enw'r NDP yn etholaeth East Ham South yn Etholiad Cyffredinol 1918 gan gipio'r sedd. Bu'n gadeirydd grŵp seneddol yr NDP o 1918 i 1920. Methodd yn ei ymgais i ddal gafael ar ei sedd yn enw Rhyddfrydwr y Glymblaid yn etholiad 1922.
Marwolaeth
Bu Edwards farw o'r cancr yn Golders Green ym 1938 a'i amlosgi yn amlosgfa Golders Green.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads