Aloffon
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mewn ffonoleg, un o set synau llafar (neu ffonau) posibl a ddefnyddir i ynganu ffonem yw aloffon (o'r Roeg: ἄλλος, állos, "arall" a φωνή, phōnē, "llais, sain"). Er enghraifft, mae [l] (fel mewn pili-pala) ac [l̥] (fel mewn clust [kl̥ɪsd]) yn aloffonau'r ffonem /l/ yn Gymraeg.[1] Er bod aloffonau yn gynaniadau gwahanol ar gyfer yr un ffonem, gellir yn aml ragweld pa aloffon fydd yn cael ei dewis mewn sefyllfa benodol. Fel arfer, dydy newid aloffon y mae siaradwyr brodorol yn ei defnyddio mewn cyd-destun penodol ddim yn newdid ystyr y gair, ond mae'n bosibl bod y canlyniad yn swnio'n ddieithr neu'n annealladwy. Mae siaradwyr brodorol fel arfer yn canfod un ffonem yn eu hiaith fel sŵn unigrwy, unigol yn yr iaith honno ac maen nhw'n "ymwybodol o ac hyd yn oed yn cael eu synnu gan" yr amrywiadau aloffonegol a ddefnyddir i gynanu ffonemau unigol.[c 1][2][3]
Remove ads
Hanes y cysyniad
Cafodd y gair aloffon (yn Saesneg: allophone) ei fathu gan Benjamin Lee Whorf yn y 1940au. Wrth wneud hynny, cyfnerthodd ddamcaniaeth ffonemegol gynnar.[4] Poblogeiddiodd G. L. Trager a Bernard Bloch y gair mewn papur 1941 am ffonoleg Saesneg,[5] ac aeth y term i fod yn rhan o'r defnydd safonol yn nhraddodiad strwythuraidd Americanaidd.[6]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads