Alpaca
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Rhywogaeth dof o'r teulu Camelidae sy'n byw yn Ne America yw'r alpaca (lluosog: alpacaod;[1] Vicugna pacos). Mae'n debyg i'r lama o ran golwg. Defnyddir ei wlân i wneud dillad a thecstilau eraill. Maent hefyd yn perthyn i’r Guanaco, sy’n fath gwyllt o Lama. Defnyddir Lamaod i gludo nwyddau, a chadwir alpacaod, sy’n llai, ar gyfer eu gwlân. Mae 2 fath o alpaca, yr Huacaya a’r Suri. Mae gan y suri wlân hirach.[2]


Allforir alpacaod yn fyd-eang erbyn hyn; gwelir alpacaod ar ffermydd yng Ngogledd America, Awstralia, yr Iseldiroedd a Chymru er enghraifft.[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
