Ana Maria Machado
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Awdures o Frasil yw Ana Maria Machado (ganwyd 24 Rhagfyr 1941) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, arlunydd, nofelydd ac awdur plant. Gyda Lygia Bojunga Nunes a Ruth Rocha, fe'i hadnabyddir fel un o awduron benywaidd mwyaf poblogaidd Brasil. Derbyniodd Fedal Ryngwladol Hans Christian Andersen yn 2000 am ei "chyfraniad parhaol i lenyddiaeth plant".[1][2]
Fe'i ganed yn ninas Rio de Janeiro ar 24 Rhagfyr 1941.[3][4][5][6]
Remove ads
Coleg a gwaith
Dechreuodd ei gyrfa fel arlunydd yn ninas Rio de Janeiro ac Efrog Newydd. Ar ôl astudio ieithoedd Romáwns, gwnaeth PhD gyda Roland Barthes yn y École pratique des hautes études ym Mharis. Gweithiodd fel newyddiadurwr i'r cylchgrawn Elle ym Mharis a'r BBC yn Llundain. Yn 1979, agorodd y siop lyfrau plant gyntaf ym Mrasil, 'Malasartes'.[3]
Yr awdures
Gellir darllen ei gwaith ar sawl lefel, fel pob llenyddiaeth fawr. Soniai ei stori Menina Bonita do laço de fita (1986; cyfieithwyd i'r saesneg dan y teitl Nina Bonita: A Story yn 2001, ISBN 978-0916291631) am gwningen ddu a chwningen wen, sy'n priodi ac yn cael swp o lefrod bach o liwiau gwahanol rhwng y ddau sbectrwm gwyn a du, gan gynnwys smotiau, patrymog a llwyd; mae'r grwp yma'n ddelwedd am grwp ethnig yn y byd go-iawn, a phwysigrwydd cyfoeth yr amrywiaeth. Yn ei llyfr Era uma vez um tirano (1982) ceir tri phlentyn sy'n dyffeio'r teyrn lleol sydd wedi gwahardd lliw, meddyliau a hapusrwydd. Heb bwyntio bus at neb, mae Ana Maria Machado yn dweud moeswers am y sefyllfa real, gwleidyddol, ond yn ei wisgo gyda hiwmor, ac yn parchu'r darllenwr i ddarllen rhwng y llinellau, i'r neges real, cyfoes, gwleidyddol.
Mae ei llyfrau'n llawn dychan, a gelwir yr arddull yn "realaeth lledrithiol" (magical realism). Dywedir ei bod yn dilyn arddull awduron megis Jose Bento Monteiro Lobato, a oedd hefyd yn awdur llyfrau plant.[3] Mae ei hiaith yn llawn o eirfa chwareus, arddull sy'n boblogaidd iawn gan blant. Yn História meio ao contrário (1978), mae Ana Maria Machado yn troitrefn arferol y stori dylwyth teg ar ei ben i lawr, drwy ddechrau gyda "ac os na fuont farw, yna mae nhw'n dal i fyw heddiw!" ac yn gorffen gyda'r geiriau traddodiadol, poblogaidd "Un tro..."
Remove ads
Peth llyfryddiaeth
- Alice e Ulisses, (novel), 1983
- Tropical Sol da Liberdade, (novel), 1988
- Canteiros de Saturno, (novel), 1991
- Aos Quatro Ventos, (novel), 1993
- O Mar Nunca Transborda, (novel), 1995
- A Audácia dessa Mulher, (novel), 1999
- Esta Força Estranha, (biography), 1998
- Para Sempre, (novel), 2001
Aelodaeth
Bu'n aelod o Academia Brasileira de Letras am rai blynyddoedd. [7][8][9][10]
Anrhydeddau
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads