Ann Hatton

bardd a nofelydd From Wikipedia, the free encyclopedia

Ann Hatton
Remove ads

Nofelydd o Gymru oedd Julia Ann Hatton (née Kemble) neu Ann of Swansea) (29 Ebrill 176426 Rhagfyr 1838). Hi oedd awdur Tammany, y libreto cyntaf y gwyddys amdano gan fenyw.[1]

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Ganed Ann Hatton yng Nghaerwrangon, yn ferch i'r cerddor crwydrol Roger Kemble. Roedd hi'n chwaer i'r actorion Sarah Siddons a John Philip Kemble. Roedd aelodau eraill o deulu Kemble hefyd yn actorion. Prentisiwyd Ann i actor Eidalaidd cyn mynd ar y llwyfan.

Yn 1783, yn un deg naw oed, priododd yr actor, C. Curtis, ond yn fuan daeth i ddeall ei fod eisoes yn briod. Gadawyd Ann yn y fath gyfyngder ariannol nes iddi yn y flwyddyn honno apelio am gymorth gan y cyhoedd mewn hysbyseb papur newydd, a cheisiodd ladd ei hun yn Abaty Westminster. Er mwyn goroesi enillodd ei bywoliaeth fel "model" mewn puteindy enwog yn Llundain ac yno fe'i saethwyd hi, yn ddamweiniol yn ei hwyneb. Adroddwyd hyn yn y papurau newydd lleol, sy'n sôn am ei "hafoesoldeb", a'i "meddwl balch a chryf."

Thumb
Plac coffa yn Abertawe

Erbyn 1799 roedd Ann a William wedi dychwelyd i Gymru, gan ymsefydlu yn Abertawe; bu'n rhedeg baddondy a llety glan y môr hyd at farwolaeth William yn 1806. O 1806 hyd 1809 bu Ann yn cadw ysgol ddawnsio yng Nghydweli, ond o 1809 ymlaen preswyliodd yn Abertawe a daeth yn llenor adnabyddus. Rhwng 1810 a 1831 ysgrifennodd farddoniaeth, ac un deg pedwar o nofelau sy'n cynnwys themâu gothig ar gyfer Minerva Press, gan ddefnyddio'r ffugenw "Ann of Swansea".

Remove ads

Llyfryddiaeth

Barddoniaeth

  • Poems on Miscellaneous Subjects (1783)
  • Poetic Trifles (1811)

Nofelau

  • Cambrian Pictures (1810)
  • Sicilian Mysteries (1812)
  • Chronicles of an Illustrious House (1816)
  • Lovers and Friends; or, Modern Attachments (1821)

Drama

  • Tammany: The Indian Chief (1794)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads