Apollo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Duw Groegaidd a Rhufeinig oedd Apollo neu Apolon[1] (Groeg Ἀπόλλων, Lladin Apollo). Ym mytholeg Roeg roedd yn dduw goleuni a'r gwanwyn, proffwydoliaeth a'r celfyddydau, yn enwedig barddoniaeth a cherddoriaeth. Roedd Oracl Apollo yn Delphi yn cael ei ystyried yn oracl pwysicaf yr hen fyd. Roedd yn un o ddeuddeg duw pwysicaf y pantheon Groegaidd.


- Mae'r erthygl hon yn trafod y duw Groegaidd Apollo. Am raglen ofod Americanaidd o'r un enw, gweler Rhaglen Apollo.
Roedd yn fab i Zeus a Leto, ac yn efaill i'r dduwies Artemis. Dywedir iddo gael ei eni ar ynys Delos. Mae tarddiad yr enw'n ansicr. Mae'r ffurf Dorig Απέλλων yn hŷn ac yn tarddu o ffurf cynharach eto, sef: Απέλjων. Yn sicr, gellir gweld cyswllt rhwng yr enw â'r mis Dorig Απέλλαιος a gyda'r hen ŵyl Apellai (neu απελλαι).[2]
Yn ôl gwahanol ffynonellau, cariadon Apollo a'i blant gyda hwy oedd:
- Akantha
- Amphissos
- Anios
- Aristaios
- Arsinoe
- Asklepios
- Chione
- Daphne
- Dryope
- Hekuba
- Hyakinthos
- Kalliope
- Kassandra
- Kinyras
- Koronis
- Kyknos
- Kyparissos
- Leukothea
- Linos
- Manto
- Mopsos
- Orpheus
- Phemonoe
- Philammon
- Polyxena
- Psamathe
- Linos
- Rhoeo
- Terpsichore
- Troilos
- Urania
Remove ads
Ffynonellau Clasurol
- Aelian, Varia Historia
- Apollodorus I & III Llyfr
- Diodorus Siculus III Llyfr
- "Emynau Homer"
- Homer, Iliad
- Hyginus Mythographus, Chwedlau
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads