Arthur Probert
gwleidydd Llafur From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Arthur Reginald Probert (30 Medi 1909 – 14 Chwefror 1975) yn wleidydd Llafur Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros Aberdâr.[1]
Remove ads
Bywyd personol
Ganwyd Proberts ym 1907 yn Aberdâr yn fab i Albert John Probert, tafarnwr. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr.
Priododd Muriel Taylor ym 1938, yr oedd hi yn ferch i William Taylor o Abercwmboi a chawsant dwy ferch.
Gyrfa
Bu'n gweithio fel swyddog atgyweirio ystadau tai i Gyngor Dinesig Aberdâr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol a bu'n gwasanaethu yn yr Alban, yr Almaen a Denmarc.
Gyrfa wleidyddol
Roedd Probert yn aelod gweithgar o Undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol a gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cyngor Llafur Aberdâr. Wedi marwolaeth David Emlyn Thomas AS Aberdâr ym 1954, safodd Probert yn Ymgeisydd y Blaid Lafur mewn isetholiad ym mis Hydref yr un flwyddyn gan gael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin. Cadwodd afael ar y sedd hon hyd ei ymddeoliad adeg Etholiad Cyffredinol, Chwefror 1974.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads