Asterid

From Wikipedia, the free encyclopedia

Asterid
Remove ads

Grŵp mawr o blanhigion blodeuol yw'r asteridau (Saesneg: asterids). Fel rheol, mae eu petalau'n ffurfio tiwb ac mae gan eu blodau nifer fach o frigerau. Mae llawer o asteridau'n cynnwys iridoidau (dosbarth o gemegion gyda blas chwerw) fel amddiffyniad yn erbyn llysysyddion. Gall asteridau fod o bwysigrwydd economaidd fel planhigion yr ardd, chwyn, llysiau rhinweddol neu gnydau (e.e. letys, tomatos, tatws, coffi).

Ffeithiau sydyn Asteridau, Dosbarthiad gwyddonol ...
Remove ads

Urddau

Yn ôl y system APG III, mae'r asteridau yn cynnwys 13 urdd a 5 teulu heb eu gosod mewn urdd:[1]

  • Cornales: 6 teulu, 590 rhywogaeth
  • Ericales: 22 deulu, 11,515 rhywogaeth
  • Lamiidau (Ewasteridau I)
    • Teulu Boraginaceae (urdd ansicr): 2740 rhywogaeth
    • Teulu Vahliaceae (urdd ansicr): 8 rhywogaeth
    • Teulu Icacinaceae (urdd ansicr): 149 rhywogaeth
    • Teulu Metteniusaceae (urdd ansicr): 7 rhywogaeth
    • Teulu Oncothecaceae (urdd ansicr): 2 rywogaeth
    • Garryales: 2 deulu, 18 rhywogaeth
    • Gentianales: 5 teulu, 16,637 rhywogaeth
    • Lamiales: 23 theulu, 23,810 rhywogaeth
    • Solanales: 5 teulu, 4080 rhywogaeth
  • Campaniwlidau (Ewasteridau II)
    • Aquifoliales: 5 teulu, 536 rhywogaeth
    • Asterales: 11 teulu, 26,870 rhywogaeth
    • Escalloniales: 1 teulu, 130 rhywogaeth
    • Bruniales: 2 deulu, 79 rhywogaeth
    • Paracryphiales: 1 teulu, 26 rhywogaeth
    • Dipsacales: 2 deulu, 1090 rhywogaeth
    • Apiales: 7 teulu, 5489 rhywogaeth
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads