Ewdicot
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Grŵp mawr o blanhigion blodeuol yw'r ewdicotau (Saesneg: eudicots). Maent yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau, tua tri chwarter o blanhigion blodeuol y byd.[1] Ymddangosodd yr ewdicotau cyntaf tua 125 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[1] Fel rheol, mae ganddynt ddwy had-ddeilen, meinwe fasgwlaidd wedi'i threfnu mewn cylchoedd, a dail llydan â rhwydwaith o wythiennau.[2] Mae gan eu gronynnau paill dri mandwll.[2] Mae'r ewdicotau'n cynnwys llawer o gnydau pwysig a phlanhigion yr ardd.
Remove ads
Urddau
Dosberthir yr ewdicotau mewn 39 o urddau yn ôl y system APG III:[3]
- Ranunculales: 7 teulu, 4445 rhywogaeth
- Teulu Sabiaceae (urdd ansicr): 100 rhywogaeth
- Proteales: 3 teulu, 1610 rhywogaeth
- Trochodendrales: 1 teulu, 2 rywogaeth
- Buxales: 2 deulu, 72 rywogaeth
- "Ewdicotau craidd"
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads