Austin

prifddinas y dalaith Americanaidd, Texas, Unol Daleithiau From Wikipedia, the free encyclopedia

Austin
Remove ads

Austin yw prifddinas y dalaith Americanaidd, Texas, Unol Daleithiau. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 790,390. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin–Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...

Sefydlwyd yr ardal yn ystod y 1830au ar lannau'r Afon Colorado gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn Waterloo. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ôl Stephen F. Austin. Tyfodd y ddinas trwy gydol y 19g a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ôl y Dirwasgiad Mawr parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.

Remove ads

Gefeilldrefi Austin

Rhagor o wybodaeth Gwlad, Dinas ...

Dolenni Allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Texas. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads