Autun
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yn département Saône-et-Loire yn région Bourgogne-Franche-Comté, Ffrainc, yw Autun. Yn 1999 roedd y boblogaeth yn 16,419.

Saif Autun ar Afon Arroux. Sefydlwyd hi gan yr ymerawdwr Rhufeinig Augustus dan yr enw Augustodonum. Symudwyd poblogaeth Bibracte yma. Mae nifer o weddillion adeiladau Rhufeinig i'w gweld yma. Ymhlith adeiladau nodedig y ddinas, mae Eglwys Gadeiriol Saint-Lazare, yn dyddio o'r 12g.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

