Rhanbarthau Ffrainc
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Rhennir Ffrainc yn 18 région (rhanbarth gweinyddol), sy'n cynnwys 13 région yn y Ffrainc ddinesig a 5 rhanbarth tramor. Mae un o'r rhanbarthau dinesig, Corsica (Corse), yn cael ei ddiffinio fel "cymuned diriogaethol". Y rhanbarthau yw'r lefel uchaf yn israniadau tiriogaethol a gweinyddol Gweriniaeth Ffrainc; rhennir y rhanbarthau hyn yn eu tro yn départements.
Daeth y 18 rhanbarth i fodolaeth ar 1 Ionawr 2016; cyn hynny roedd 27 rhanbarth. Bathwyd y term région yn swyddogol yn Neddf Datganoli 2 Mawrth 1982.
Mae rhanbarthau Ffrainc yn ardaloedd daearyddol diffiniedig yn ogystal, i gryn raddau, a gysylltir â hunaniaeth ddiwyllianol a hanesyddol sy'n aml yn rhagddyddio Ffrainc ei hun fel uned wleidyddol.
Remove ads
Swyddogaeth
Gan fod Ffrainc yn wladwriaeth ganolog, nid oes gan y rhanbarthau rym i greu deddfau na chodi trethi. Ond maent yn derbyn cyfran o'r arian a gofir gan drethi cenedlaethol gan y llywodraeth ganolog ac felly mae ganddynt gyllid sylweddol ac mae ganddynt ryddid i'w gwario yn ôl yr angen.
O bryd i'w gilydd, mae dadl yn codi dros gael mwy o ymreolaeth ar lefel ranbarthol, ond mae hyn yn arwain at anghytundeb yn aml. Mae rhai pobl wedi galw yn ogystal am gael gwared â'r cynghorau yn y départements a rhoi ei grym a'u swyddogaeth i'r rhanbarthau, gan gadw'r départements fel israniadau gweinyddol yn unig, ond hyd yn hyn nid oes symudiad i'r cyfeiriad hwnnw.
Remove ads
Diwygio ac uno'r rhanbarthau
Yn 2014, pasiodd Senedd Ffrainc (y Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd) cyfraith i leihau nifer y rhanbarthau ar dir mawr Ffrainc a Chorsica o 22 i 13. Daeth y rhanbarthau newydd i rym ar 1 Ionawr 2016.
Rhoddwyd enwau dros dro i'r rhan fwyaf o ranbarthau newydd drwy gyfuno enwau'r hen ranbarthau, e.e. enw dros dro'r rhanbarth newydd oedd yn cynnwys Aquitaine, Poitou Charentes a Limousin oedd Aquitaine-Limousin-Poitou Charentes. Cafodd enwau parhaol eu cynnig gan y cynghorau rhanbarthol newydd a'u gadarnhau gan y Conseil d'etat erbyn 1 Gorffennaf 2016. Dewisodd dau ranbarth – Auvergne-Rhône-Alpes a Bourgogne-Franche-Comté – gadw eu henwau interim.
Remove ads
Y rhanbarthau ers 2016

Rhanbarthau a arhosodd yr un fath:
Bretagne | |
Centre-Val de Loire | |
Corsica | |
Île-de-France | |
Pays de la Loire | |
Provence-Alpes-Côte d'Azur |
Rhanbarthau a gafodd eu cyfuno:
Cyn-ranbarthau | Rhanbarthau newydd | |
Bourgogne | Bourgogne-Franche-Comté | |
Franche-Comté | ||
Aquitaine | Nouvelle-Aquitaine (Aquitaine-Limousin-Poitou-Charentes) | |
Limousin | ||
Poitou-Charentes | ||
Basse-Normandie | Normandie | |
Haute-Normandie | ||
Alsace | Grand Est (Alsace-Champagne-Ardenne-Lorraine) | |
Champagne-Ardenne | ||
Lorraine | ||
Languedoc-Roussillon | Ocsitania (Languedoc-Roussillon-Midi-Pyrénées) | |
Midi-Pyrénées | ||
Nord-Pas-de-Calais | Hauts-de-France (Nord-Pas-de-Calais-Picardie) | |
Picardie | ||
Auvergne | Auvergne-Rhône-Alpes | |
Rhône-Alpes |
Rhestr o'r hen ranbarthau
22 région y Ffrainc ddinesig (métropolitaine) cyn 2016:
1. Alsace
2. Aquitaine
3. Auvergne
4. Basse-Normandie
5. Bourgogne
6. Bretagne
7. Centre-Val de Loire
8. Champagne-Ardenne
9. Corsica
10. Franche-Comté
11. Haute-Normandie12. Île-de-France
13. Languedoc-Roussillon
14. Limousin
15. Lorraine
16. Midi-Pyrénées
17. Nord-Pas-de-Calais
18. Pays de la Loire
19. Picardie
20. Poitou-Charentes
21. Provence-Alpes-Côte d'Azur
22. Rhône-Alpes
Sylwer fod gan Corsica statws gyfansoddiadol o fewn Ffrainc fel cymuned diriogaethol (collectivité territoriale) sy'n wahanol i'r 21 rhanbarth arall.
Remove ads
Rhanbarthau tramor
Mapiau o ranbarthau tramor Ffrainc, pob un ohonynt hefyd yn département tramor
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads