Balthus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Arlunydd Pwyleg-Ffrengig oedd Balthasar Klossowski de Rola (29 Chwefror 1908 – 18 Chwefror 2001), a adnabyddid dan y llysenw Balthus.
Torrodd ei dir ei hun, gan wrthod confensiwn a chelf yr oes. Mynnodd y dylai ei waith gael eu gweld - yn hytrach na darllen amdano, a gwrthododd unrhyw gais i greu bywgraffiad ohono. Yn 1968, mewn ateb i Oriel y Tate, dywedodd: "NO BIOGRAPHICAL DETAILS. BEGIN: BALTHUS IS A PAINTER OF WHOM NOTHING IS KNOWN. NOW LET US LOOK AT THE PICTURES. REGARDS. B."[1]
Remove ads
Ganwyd Balthus yn Paris, a noddwyd ei waith cynnar gan y bardd Almaeneg Rainer Maria Rilke a gan Maurice Denis, Pierre Bonnard a Pierre Matisse. Hanesydd celf oedd ei dad Erich Klossowski, a sgwennodd yn helaeth am Honoré Daumier, ac roedd ei fam, Elisabeth Dorothea Spiro (a adnabyddid fel Baladine Klossowska), yn rhan o ddiwylliant celf elitaidd Paris.

Athronydd oedd ei frawd Pierre Klossowski, a'r prif ddylanwad arno oedd Marquis de Sade. Roedd llawer o enwogion yn ymweld â'u cartef gan gynnwys André Gide a Jean Cocteau, a ysbrydolwyd gan y cartref i sgwennu'r nofel Les Enfants Terribles (1929).
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
