Baróc

From Wikipedia, the free encyclopedia

Baróc
Remove ads

Arddull arbennig mewn pensaernïaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau a fu'n boblogaidd rhwng diwedd yr 17g a chanol y 18g, yn enwedig yng ngwledydd Catholig Ewrop, yw Baróc (benthyciad o'r gair Saesneg Baroque sydd yn ei dro yn fenthyciad o'r gair Ffrangeg baroque o'r gair Sbaeneg barrueco). Mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio unrhyw arddull anghyffredin yn y celfyddydau. Gellid ystyried yr arddull Baróc fel adwaith yn erbyn Clasuriaeth y Dadeni. Dechreuodd yn yr Eidal.

Thumb
Abaty Melk, Awstria: enghraifft enwog o bensaernïaeth faróc
Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechreuwyd ...

Fe'i nodweddir mewn pensaernïaeth ac arlunio gan ddefnydd llinellau ystwyth neu doredig, arddurnwaith blodeuog a goreuraidd (a arweiniodd at yr arddull Rococo) ac effeithiau gofodol dramatig. Ymhlith yr artistiaid baroc pwysicaf gellid crybwyll Bernini, Borromini, Caravaggio a Rubens.

Mewn cerddoriaeth gelwir cyfansoddiadau gan gyfansoddwyr fel Johann Sebastian Bach a Monteverdi yn gerddoriaeth faróc. Dyma'r cyfnod a welodd ddatblygiad yr opera, yr oratorio, y trio sonata a'r concerto grosso (gweler Arcangelo Corelli, er enghraifft).

Mewn llenyddiaeth mae Baróc yn derm llai pendant a diffiniedig. Gellid ystyried nofelau picarésg y cyfnod yn enghraifft. Roedd yn ddylanwad pwysig ar lenyddiaeth y cyfnod yn ogystal, yn enwedig yn Ffrainc, yr Eidal, de'r Almaen a Sbaen.

Remove ads

Rhai cyfansoddwyr Baróc

Remove ads

Gweler hefyd

  • Rococo
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads