Bengaleg
iaith From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Siaredir Bengaleg (Bengaleg: বাংলা Bangla) ym Mengal, rhanbarth yn isgyfandir India yn ne Asia sy'n ymestyn rhwng Bangladesh a thalaith Gorllewin Bengal yn India.
Mae'n aelod o'r ieithoedd Indo-Ariaidd ac mae'n perthyn i ieithoedd eraill Gogledd India, yn enwedig Assameg, Orïa a Maithili.
Remove ads
Llenyddiaeth
Mae gan y Fengaleg lenyddiaeth hen a diddorol. Rabindranath Tagore yw'r awdur Bengaleg enwocaf.
Yr Wyddor

Mae system ysgrifennu arbennig gan yr iaith Fengaleg. Yn hytrach na gwyddor fel y cyfryw, mae'n abwgida ble mae pob symbol yn cynrycholi sillaf. Dyma enghraifft o destun yn Bengaleg (o'r Datganiad Cyffredinol am Hawliau Dynol)
ধারা ১: সমস্ত মানুষ স্বাধীনভাবে সমান মর্যাদা এবং অধিকার নিয়ে জন্মগ্রহণ করে। তাঁদের বিবেক এবং বুদ্ধি আছে; সুতরাং সকলেরই একে অপরের প্রতি ভ্রাতৃত্বসুলভ মনোভাব নিয়ে আচরণ করা উচিত।
Remove ads
Ffonoleg
Mae 29 o gytseiniaid a 7 o lafariaid, yn ogystal â 7 o lafariaid trwynol. Yn ogystal â'r llythyren yn yr wyddor Fengaleg, mae'r tablau isod yn dangos y symbol yn yr wyddor seinegol ryngwladol.
Gramadeg
Yn wahanol i'r Gymraeg a llawer o Ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill, nid oes gan enwau genedl gramadegol (gwryw neu benyw). Trefn arferol y frawddeg yw SOV (goddrych, gwrthrych, berf), felly mae'r ferf ar ddiwedd y frawddeg, yn hytrach nag ar y cychwyn fel yn Gymraeg.
Lleoliad siaradwyr

Yn ogystal ag ym Mangladesh, Bengaleg yw'r iaith frodorol yn nhalaith Bengal yn India, yn ogystal â rhannau o Assam, Jharkhand ac Ynysoedd Andaman a Nicobar.
Siaradwyr y tu hwnt i isgyfandir India
Mae cymunedau sylweddol o siaradwyr Bengaleg yn:
- De-ddwyrain Asia: Maleisia, Nepal a Singapôr, Myanmar
- Awstralia
- Y Dwyrain Canol: Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig
- Ewrop: Cymru[5], Lloegr, yr Alban, Ffrainc
- Gogledd America: Unol Daleithiau America.
Remove ads
Hanes
Yn wreiddiol, roedd tebygrwydd mawr rhwng Bengali a Pali, ond daeth y Fengaleg fwyfwy dan ddylanwad Sansgrit yn ystod cyfnod Chaitanya (1486 - 1534), a hefyd yn ystod cyfnod dadeni Bengâl (1775- 1941). O blith yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd ar isgyfandir India, mae Bengaleg a Marathi yn defnyddio llawer o eirfa ar sail Sansgrit, tra bo ieithoedd eraill dan ddylanwad amlycach o Arabeg a Pherseg.

Wedi annibyniaeth India a Phacistan, rhannwyd y Bengal hanesyddol rhwng y ddwy wladwriaeth - rhan o Bacistan oedd Bangladesh bryd hynny. Ym 1951–52, yng Ngorllewin Pacistan (Bangladesh erbyn hyn), lansiwyd y Mudiad Iaith Bengaleg, er mwyn amddiffyn yr iaith yn wyneb y penderfyniad i ddyrchafu Wrdw yn iaith genedlaethol. Lladdwyd nifer o brotestwyr ar 21 Chwefror 1952, ac wedi hynny sefydlwyd 21 Chwefror yn ddiwrnod y Mudiad Iaith Bengaleg. Yn ddiweddarach, penderfynodd UNESCO gydnabod hynny trwy sefydlu 21 Chwefror yn Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol.
Remove ads
Dolenni Allanol
Ymadroddion cyffredin gyda chyfieithiadau Saesneg https://www.omniglot.com/language/phrases/bengali.php
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads