Benjamin Netanyahu

From Wikipedia, the free encyclopedia

Benjamin Netanyahu
Remove ads

Benjamin "Bibi" Netanyahu, hefyd Binyamin Netanyahu (ganed 21 Hydref 1949) yw nawfed Prif Weinidog Israel. Cafodd ei wneud yn Brif Weinidog ym Mawrth 2009. Mae hefyd yn Gadeirydd y Blaid Likud ac yn aelod o'r Knesset; ef hefyd ydy Gweinidog dros Iechyd ei wlad, Gweinidog Pensiynau a Gweinidog dros Strategaeth Economaidd Israel.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Ef ydy'r Prif Weinidog cyntaf i gael ei eni ar ôl creu Israel yn wladwriaeth sofran. Ymunodd â llu arfog Israel yn 1967 gan wasanaethu fel 'commander' yn yr uned gomando a elwir yn Sayeret Matkal gan gymryd rhan mewn sawl ymgyrch milwrol gan gynnwys achub gwystlon y 'Sabena Flight 572' yn 1972. Ymladdodd yn Rhyfel Yom Kippur yn 1973 a chael ei wneud yn gapten a gadael y fyddin. Netanyahu yw'r prif weinidog sydd wedi gwasanaethu hiraf yn hanes Israel, ar ôl gwasanaethu cyfanswm o dros 17 mlynedd. Yn ôl Erdogan, Arlywydd Twrci ym Mehefin 2025, o ran yr hil-laddiad mae'n gyfrifol amdano, mae Netanyahu bellach yn waeth na Hitler.[1]

Cynrychiolodd Israel ar y Cenhedloedd Unedig o 1984 hyd at 1988, ac fe'i gwnaed yn Brif Weinidog rhwng 1996 a 1999. Cafodd ei wneud yn Ysgrifennydd Tramor rhwng 2002 a 2003, yn Ysgrifennydd Materion Ariannol yn Awst 2005 yn Llywodraeth Ariel Sharon gan adael ar ôl anghytuno ynghylch Llain Gaza.

Ailafaelodd yn awenau ei blaid ar 20 Rhagfyr 2005 gan eu harwain fel gwrth-blaid. Yn etholiadau 2009 ail oedd Likud ond ffurfiwyd llywodraeth clymblaid.[2]

Mae'n frawd i Yonatan Netanyahu, sy'n gomander ym myddin Israel ac a fu farw wrth geisio achub gwystlon yn 'Operation Entebbe'.

Daeth Netanyahu yn gyfaill i Donald Trump yn 1980au. Yn ystod arlywyddiaeth gyntaf Trump, cydnabu'r Unol Daleithiau Jerwsalem fel prifddinas Israel, cydnabu sofraniaeth Israel dros Ucheldiroedd Golan, a chyfryngodd Gytundebau Abraham, cytundebau normaleiddio rhwng Israel a'r byd Arabaidd. Mae Netanyahu wedi wynebu beirniadaeth llym am ehangu aneddiadau Israel yn y Lan Orllewinol, a ystyrir yn anghyfreithlon o dan gyfraith ryngwladol. Yn 2019, cyhuddwyd Netanyahu o dorri ymddiriedaeth, llwgrwobrwyo a thwyll. Ym Mehefin 2021, cafodd Netanyahu ei ddiswyddo o'r brif weinidogiaeth, cyn dychwelyd ar ôl etholiad 2022.

Cafodd Netanyahu ei feirniadu am wrthdroi democratiaeth ac mae arddull ei yn cael ei weld gan lawer yn awdurdodaidd ac yn ymylu ar unbeniaeth. Cafwyd protestiadau ar raddfa fawr yn gynnar yn 2023. Yn dilyn ymosodiadau 7 Hydref gan grwpiau Palesteinaidd dan arweiniad Hamas cafwyd protestiadau mawr yn erbyn Netanyahu am y diffyg diogelwch yn ystod yr ymosodiad a methiant Netanyahu i sicrhau fod gwystlon Israelaidd yn dychwelyd adref i Israel. Yn Hydref 2024, gorchmynnodd Netanyahu ymosodiad ar Libanus gyda'r nod datganedig o ddinistrio galluoedd milwrol Hezbollah, cynghreiriad allweddol i Hamas a'u cynorthwyodd ers yr ymosodiad ar 7 Hydref. Ar ôl cwymp cyfundrefn Assad yn Rhagfyr 2024, cyfarwyddodd Netanyahu oresgyniad Syria yn llwyddiannus. Bu hefyd yn llywyddu dros ymosodiadau Israel ar Iran ym Mehefin 2025.

Thumb
Netanyahu gyda phrif weinidog Prydain Rishi Sunak yn Llundain, 24 Mawrth 2023
Remove ads

Ymchwiliadau troseddol a chyhuddiad

Ers Ionawr 2017, mae Netanyahu wedi heddlu Israel wedi ymchwilio i'w weithgaredd ar ddau achos, a'i holi'n drylwyr, "Achos 1000" ac "Achos 2000". Mae'r ddau achos yn gysylltiedig. Yn Achos 1000, mae Netanyahu dan amheuaeth o fod wedi cael ffafrau amhriodol gan ddynion busnes, gan gynnwys James Packer a'r cynhyrchydd Hollywood Arnon Milchan.[3][4] Mae Achos 2000 yn ymwneud ag ymdrechion honedig i daro bargen gyda chyhoeddwr grŵp papurau newydd Yedioth Ahronot, Arnon Mozes, i hyrwyddo deddfwriaeth i wanhau prif gystadleuydd Yedioth, Israel Hayom, yn gyfnewid am sylw mwy ffafriol i Netanyahu.

Ar 3 Awst 2017, cadarnhaodd heddlu Israel am y tro cyntaf fod Netanyahu dan amheuaeth o droseddau yn ymwneud â thwyll, torri ymddiriedaeth, a llwgrwobrwyo yn achosion "1000" a "2000".[5] Y diwrnod canlynol, adroddwyd bod cyn-bennaeth staff y prif weinidog, Ari Harow, wedi llofnodi cytundeb gydag erlynwyr i dystio yn erbyn Netanyahu yn yr achosion hyn.[6]

Roedd achos troseddol Netanyahu i fod i ddechrau ar 24 Mai 2020, ar ôl cael ei drefnu'n wreiddiol ar gyfer mis Mawrth y flwyddyn honno ond ei ohirio oherwydd pandemig COVID-19.[7] Yn Ebrill 2023, roedd yr achos troseddol yn dal i fynd rhagddo.[8]

Remove ads

Hil-laddiad

Yn Rhagfyr 2023, dywedodd Netanyahu y dylai Israel gefnogi "mudo gwirfoddol" y Palesteiniaid o Gaza.[9] Cyhuddwyd Netanyahu o [[hil-laddiad gan sefydliadau anllywodraethol,[10][11] gan arwain at achos <i id="mwCB8">De Affrica v. Israel</i> gerbron y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn Rhagfyr 2023.[12]

Ar 20 Mai 2024, cyhoeddodd Karim Khan, erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol, ei fwriad i wneud cais am warant i arestio Netanyahu ar sawl cyhuddiad o droseddau rhyfel honedig a throseddau yn erbyn dynoliaeth.[13][14]

Ar 21 Tachwedd 2024, cyhoeddodd y Llys Troseddol Rhyngwladol warantau arestio ar gyfer Netanyahu, a'i gyn-weinidog amddiffyn Gallant am droseddau rhyfel honedig a gyflawnwyd yn ystod rhyfel Gaza.[15] Disgrifiodd Netanyahu y dyfarniad fel "celwyddau hurt a ffug" a dywedodd fod y penderfyniad yn "wrth-Semitaidd".[16]

Ar 18 Mawrth 2025, lansiodd Israel ymosodiad annisgwyl ar Llain Gaza, gan ddod â chaoediad rhyfel Gaza 2025 i ben.[17] Roedd Netanyahu i fod i dystio yn ei achos llys am lygredd ar 18 Mawrth, ond o ganlyniad i'r ymosodiadau, gohiriwyd yr achos cyfreithiol.[18][19]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads