Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg

casgliad o gerddi yn yr iaith Gymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Blodeugerdd Gymraeg a olygwyd gan Syr Thomas Parry yw Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (yr Oxford Book of Welsh Verse).[1] Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1962 ac mae mewn print byth ers hynny.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Golygydd ...

Dyma'r detholiad mwyaf cynhwysfawr o farddoniaeth Gymraeg i weld golau dydd. Roedd yn ychwanegiad pwysig i'r gyfres unffurf o flodeugerddi cynrycholiadol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Gyda dros 565 o dudalennau, mae'n ddetholiad sy'n rhychwantu hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r cychwyn yn y 6g i ganol yr 20g, o waith Aneirin a Taliesin i gerddi Saunders Lewis a T. H. Parry-Williams.

Er bod rhai beirniaid diweddar yn beirniadu'r golygydd am fod yn geidwadol braidd yn ei ddewis o destunau erys yn gyfrol anhepgor i fyfyrwyr Cymraeg.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads