Brad Pitt
cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Shawnee yn 1963 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actor a chynhyrchydd ffilmiau o'r Unol Daleithiau yw William Bradley "Brad" Pitt (ganwyd 18 Rhagfyr 1963). Daeth yn enwog yn sgîl nifer o ffilmiau llwyddiannus yn ystod canol y 1990au. Caiff ei ystyried fel un o ddynion mwyaf golygus y byd a thelir sylw mawr gan y cyfryngau i'w fywyd personol. Mae Pitt wedi cael ei enwebu am un o Wobrau Golden Globe ac un o Wobrau'r Academi.


Dechreuodd Pitt ei yrfa ar raglenni teledu gan gynnwys rôl rheolaidd ar yr opera sebon CBS Dallas ym 1987. Cafodd rannau cefnogol hefyd mewn ffilmiau ar gyfer arddegwyr, comedïau a dramâu chwaraeon teuluol. Daeth yn adnabyddus fel y cowboi sy'n cael cyfathrach rhywiol gyda chymeriad Geena Davis yn y ffilm Thelma & Louise (1991). Cafodd Pitt chwarae'r brif ran am y tro cyntaf yn y ffilm Interview with the Vampire (1994). Derbyniodd ganmoliaeth clodwiw am ei ran yn y ffilm droseddol Se7en a'r ffilm wyddonias Twelve Monkeys. Derbyniodd ganmoliaeth a beirniadaethau cadarnhaol hefyd am ei rôl yn y ffilm Fight Club (1999), lle chwaraeodd ran Tyler Durden. Ers hynny, mae ef wedi sefydlu ei hun ferl actor o'r radd flaenaf. Ei lwyddiannau mwyaf o safbwynt masnachol oedd Ocean's Eleven (2001), Spy Game (2001), Troy (2004), y comedi antur Mr. & Mrs. Smith (2005), a Burn After Reading (2008).
Remove ads
Bywyd personol
Wedi iddo gael perthynas enwog gyda'r actores Gwyneth Paltrow, a phriodas â Jennifer Aniston, cychwynodd berthynas gyda'r actores Angelina Jolie a priododd y ddau yn Awst 2014. Mae eu perthynas wedi denu sylw'r cyfryngau ledled y byd a bathwyd y cyfansoddair "Brangelina". Maent wedi mabwysiadu tri o blant, Maddox, Pax a Zahara, a mae ganddynt tri o blant biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne. Ers ei berthynas gyda Jolie, mae Pitt wedi ymroi'n fwyfwy i faterion cymdeithasol, yn ei wlad ei hun yn ogystal â thramor. Yn Medi 2016 cyhoeddwyd fod Jolie wedi gwneud cais am ysgariad.[1]
Remove ads
Gwragedd
- Jennifer Aniston (2000-2005)
- Angelina Jolie (2014–2019)
Plant
Ffilmiau
- Dark Side of the Sun (1988)
- Across the Tracks (1991)
- Thelma & Louise (1991)
- A River Runs Through It (1992)
- Interview with the Vampire (1994)
- Legends of the Fall (1994)
- Se7en (1995)
- 12 Monkeys (1997)
- Seven Years in Tibet (1997)
- Meet Joe Black (1998)
- Fight Club (1999)
- Snatch (2000)
- Ocean's Eleven (2001)
- Troy (2004)
- Ocean's Twelve (2004)
- Mr. & Mrs. Smith (2005)
- The Curious Case of Benjamin Button (2008)
- Inglourious Basterds (2009)
- Babael (2006)
- Ocean's Thirteen (2007)
- The Assassination of Jesse James by the Coward Robert Ford (2007)
- Burn After Reading (2008)
- The Tree of Life (2011)
- Moneyball (2011)
- 12 Years a Slave (2013)
- World War Z (2013)
- Killing Them Softly (2013)
- Fury (2014)
- The Big Short (2015)
- By the Sea (2015)
- Ad Astra (2019)
- Once Upon a Time in Hollywood (2019)
- Bullet Train (2022)
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads