C.P.D. Bae Colwyn
clwb pêl-droed yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn yn glwb Pêl-droed, sy'n chwarae yng nghynghrair Cymru Premier. Maent yn chwarae ar Ffordd Llanelian, Hen Golwyn.
Remove ads
Hanes
Chwaraeodd tîm yn cynrychioli Bae Colwyn eu gêm gyntaf yn Ionawr 1881. Ychydig a wyddir am hanes cynnar y Bae heblaw iddynt gystadlu yng Nghynghrair Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru o 1901 hyd y daeth y gystadleuaeth i ben yn 1921 pan ymunodd y rhan fwyaf o glybiau â Chynghrair Cenedlaethol Cymru.
Yn 1984 penderfynodd y clwb groesi'r ffin i chwarae yn Lloegr ac fe'i etholwyd yn aelod o Gynghrair y Bass North West Counties League.
Pan ffurfwyd Uwch Gynghrair Cymru fe geisiodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru roi hwb i'r gystadleuaeth newydd drwy orfodi fod pob clwb yng Nghymru (ac eithrio'r tri clwb proffesiynol ar y pryd, sef Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe a Wrecsam) i ymuno ag o. Gwrthododd Bae Colwyn, ymysg eraill, a rhaid oedd chwarae eu gemau 'cartref' yn Northwich ac Ellesmere Port. Ond ym mis Ebrill 1995 fe enillwyd achos llys a olygodd eu bod yn cael dychwelyd i Ffordd Llanelian.
Fe gyrrhaeddodd y Clwb ail-rownd Cwpan FA Lloegr yn 1995-96 cyn colli o 2-0 yn erbyn Blackpool. Fe wnaethon nhw hefyd gyrraedd Rownd 8 olaf Tlws Lloegr yn 1996-97 cyn colli yn erbyn Stevenage Borough.
Dychwelyd i Gymru
Wedi 35 mlynedd yn chwarae yn Lloegr fe adawodd Bae Colwyn Adran Gyntaf y Gorllewin y Northern Premier i ymuno â chynghrair newydd Cymru North ar ddechrau tymor 2019-20.[1]
Bu'r cyfnod yn ôl yng Nghymru yn llwyddiannus i'r Bae gan weld tair gwaith mwy o gefnogwyr yn mynychu'r gemau a buddsoddi yn y maes. Enillodd y Bae ddyrchafiad i'r Cymru Premier ar gyfer tymor 2023-24 gan cael eu dyrchafu gyda C.P.D. Tref y Barri o'r de.[2] Yn sgîl dychwelyd i Gymru a'r llwyddiant, neu, efallai rheswm am y llwyddiant, bu i'r clwb fynd ati yn bwrpasol i Gymreigio ei hun gyda chyhoeddiadau dwyieithog ar y system sain a defnydd arall o'r Gymraeg a Chymreictod.[3]
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
