Cadwgan ap Meurig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tywysog Gwent a Morgannwg oedd Cadwgan ap Meurig (fl. tua 1045 - 1073). Roedd yn fab i Meurig ap Hywel o deulu brenhinol Morgannwg, a phan gipiwyd Gwent Is Coed gan Meurig tua 1043, fe'i rhoddwyd i Cadwgan i'w rheoli.
Cofnodir i Gruffudd ap Rhydderch a llynges Ddanaidd ymosod ar ei deyrnas yn 1049. Tua 1055 gyrrwyd ef o'i deyrnas gan Gruffudd ap Llywelyn. Wedi lladd Gruffudd ap Llywelyn yn 1063, daeth Cadwgan yn frenin Morgannwg; ymddengys fod ei dad wedi marw erbyn hyn. Yn fuan wedyn daeth Morgannwg dan bwysau gan y goresgynwyr Normanaidd. Diflanna Cadwgan o'r cofnodion tua 1073; i bob golwg cymerodd Caradog ap Gruffudd ei le.
Remove ads
Llyfryddiaeth
- John Edward Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Lomgmans, 3ydd arg. 1939)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads