Teyrnas Morgannwg
teyrnas yn ne Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Teyrnas Morgannwg yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Cymerodd y deyrnas ei henw oddi wrth un o'i brenhinoedd cynnar, Morgan Mwynfawr (fl tua 730). Enw arall arni oedd "Gwlad Morgan", a roddodd Glamorgan.

Cnewyllyn y deyrnas oedd Glywysing, ond ar adegau gallai hefyd gynnwys Gwent a dau o gantrefi Ystrad Tywi, sef fwy neu lai y cyfan o dde-ddwyrain Cymru.
Daeth y deyrnas i ben pan ddiorseddwyd y brenin olaf, Iestyn ap Gwrgant, gan y Norman Robert Fitz Hammo yn 1093. Llwyddodd disgynyddion Iestyn i gadw gafael ar ran o'r diriogaeth fel Arglwyddi Afan. O hynny allan, cyfyngwyd Morgannwg fel uned i'r ardal sy'n gorwedd rhwng afonydd Nedd a Afon Taf|Thaf. Ychwanegwyd arglwyddiaeth Gŵyr i greu sir newydd Forgannwg trwy Ddeddf Uno 1536.
Remove ads
Llenyddiaeth
Ychydig iawn a wyddom am fywyd llenyddol y Forgannwg gynnar. Ym Muchedd Sant Gwynllwg (ysgrifennwyd tua 1100), dywedir bod bardd o Forgannwg wedi cyfansoddi cerddi'n ymwneud â hanes Morgannwg a Chymru a mawl i'r sant. Yn y Mabinogi disgrifir Gwydion a Lleu Llaw Gyffes yn ymweld ag Arianrhod "yn rhith beirdd o Forgannwg", sy'n awgrymu fod beirdd y deyrnas yn arfer teithio i lysoedd mewn rhannau eraill o Gymru cyn cyfnod y Normaniaid. Yn ogystal, gwyddom fod gan Berddig, bardd y brenin Gruffudd ap Llywelyn, dir "ar gyffiniau Gwent", sef yn nwyrain Morgannwg yn ôl pob tebyg.[1]
Mae nifer o ffugiadau hynafiaethol Iolo Morganwg yn ymwneud â hanes a llenyddiaeth Morgannwg yn yr Oesoedd Canol ac rhaid bod yn ofalus wrth ddewis ffynonellau am y cyfnod gan fod sawl awdur sy ddim yn hanesydd proffesiynol yn dal i ddyfynu yn anfeirniadol o waith Iolo.
Remove ads
Brenhinoedd
- Tewdrig (c. 580 - c. 630)
- Meurig ap Tewdrig c. 650
- Morgan Mwynfawr (c. 730)
- Ithel ap Morgan (c. 750)
- Owain ap Hywel (fl, c 920)
- Morgan Hen ab Owain (daeth i'r orsedd tua 930)
- Owain ap Morgan
- Ithel Ddu ab Owain
- Gwrgant ab Ithel
- Rhydderch ab Iestyn ( - 1033)
- Meurig ap Hywel ( - 1055) rhan
- Gruffudd ap Rhydderch ( - 1055) rhan
- Gruffudd ap Llywelyn (1055 - 1063)
- Cadwgan ap Meurig (1063 - 1073)
- Caradog ap Gruffudd ( - 1081)
- Iestyn ap Gwrgant (c. 1081 - 1093)
Remove ads
Cantrefi a chymydau
Fel y nodir uchod, amrywiodd ffiniau'r deyrnas. Rhoddir yma gantrefi Morgannwg a'u cymydau yng nghyfnod y Normaniaid.
- Cantref Gwrinydd
- Cwmwd Afan
- Cwmwd y Coety
- Cwmwd Cynffig
- Cwmwd Glyn Ogwr
- Cwmwd Nedd (Glyn Nedd)
- Cwmwd Tir Iarll
- Cantref Gorfynydd
- Cantref Penychen
- Cwmwd Glyn Rhondda (Glynrhondda)
- Cwmwd Meisgyn
- Cantref Senghennydd (neu'r Cantref Breiniol)
- Cwmwd Cibwr
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads