Calabria
rhanbarth yr Eidal From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Rhanbarth yn ne-orllewin yr Eidal yw Calabria (Lladin: Brutium). Catanzaro yw'r brifddinas; dinasoedd pwysig eraill yw Reggio Calabria a Cosenza.
Mae Calabria yn ffurfio penrhyn yn pwyntio tua'r de-orllewin, a Chulfor Messina, dim ond 3.2 km yn ei fan gulaf, yn ei wahanu oddi wrth ynys Sicilia. Dim ond ag un rhanbarth arall y mae ganddo ffin, sef Basilicata yn y gogledd. Mae'r rhanbarth yn ardal fynyddig, gyda mynyddoedd Pollino, La Sila ac Aspromonte.
Yn y cyfnod cynnar, roedd yr ardal yn rhan o Magna Graecia, gyda nifer o ddinasoedd Groegaidd adnabyddus megis Rhegion (Reggio Calabria), Sybaris, Kroton (Crotone), a Locri. Concrwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid yn y 3 CC.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,959,050.[1]

Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

