Canolduedd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mewn ystadegaeth, canolduedd neu "ganol y dosbarthiad" yw gwerth canolog neu nodweddiadol y dosbarthiad tebygolrwydd. Mae dosbarthiad tebygolrwydd yn ffwythiant mathemategol mewn arbrawf, sy'n rhoi i ni'r tebygolrwydd y gall canlyniad neu ganlyniadau ddigwydd neu beidio â digwydd. Ar lafar gwlad, gelwir y mesur canolig hwn yn "gyfartaledd". Bathwyd y cysyniad o ganolduedd ar ddechrau'r 20g.

1. o'r boblogaeth heterogenaidd, sef rhyw gwahanol (rhes uchaf)
2. o'r boblogaeth homogenaidd, neu'r un rhyw (rhes isaf).
Y mesurau mwyaf cyffredin o'r canolduedd yw'r cymedr, y canolrif a'r modd. Mae tuedd yn golygu natur neu awydd i weithredu neu symud i ryw gyfeiriad, pwrpas, neu bwynt[1], felly gair cyfansawdd yw "canolduedd": canol + tuedd. Gellir cyfrifo canolduedd set feidraidd o werthoedd neu ddosbarthiad damcaniaethol. Weithiau mae awduron yn defnyddio canolduedd i ddynodi'r tueddiad data meintiol i glystyru o gwmpas rhyw werth canolog.[2][3]
Fel arfer, mae canolduedd dosbarthiad o ganlyniadau yn cyferbynnu gyda'i wasgariad (hynny yw, sut mae'r canlyniadau wedi'u gwasgaru) neu amrywiant (variability). Mae dadansoddwyr data'n aml yn ceisio penderfynu os yw canolduedd y data'n "gryf" neu'n "wan", yn seiliedig ar ei wasgariad.
Remove ads
Y berthynas rhwng cymedr, canolrif a modd
Mewn dosbarthiad unmodd, mae'r terfynau canlynol yn wybyddus ac yn siarp:[4]
lle μ yw'r cymedr, ν yw'r canolrif, θ yw'r modd, a σ yw'r gwyriad safonol.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads